Yr Wyl Ban Geltaidd Yn Cheatharlach (Carlow) 2025
Am 6 o’r gloch y bore, Ebrill 22ain, cychwynodd bws Cwmni Llew Jones o Lanelwy hefo’r ffyddloniaid yn edrych ymlaen i gyrraedd yr Iwerddon a’r Ŵyl Ban Geltaidd. Roedd y siwrna ar y bws ac wedyn ar y llong o Gaergybi’n hwylus iawn gyda’r mȏr yn llyfn a’r haul yn tywynnu. Cyrraeddasom Westy’r Saith Derwen tua 3.30y.p. ac felly’n rhoi cyfle i ni ymlacio cyn dechrau ar y gweithgareddau.
Rhaid dweud bod berlwm arbennig yn ystod yr wythnos , yn arbennig oherwydd brwdfrydedd yr ifanc a fynychodd yr Ŵyl – dyma’r dyfodol wedi’r cyfan. Hefyd, roedd toreth o weithgareddau ymylol y gallech eu mynychu’n y dref a hynny’n ychwanegol i weithgareddau swyddogol yr Ŵyl. Gwych iawn ac fe fyhafiodd y tywydd yn reit dda hefyd!
Ar y nos Fawrth dyna yw Noson Agoriadol yr Ŵyl – y tro hwn yn theatr y dref – y ‘Visual’. Roedd cyfle i bob gwlad geltaidd gyfrannu eitemau ac fe ganodd Ieuan ap Sion Y Gȃn Geltaidd yn soniarus iawn. Diolch i Dafydd Iawn am gyfansoddi’r ‘Anthem Geltaidd’. Ar ran Cymru, cafwyd perfformiadau clodwiw iawn gan Carys ac Elin o Bowys, Mae’r ddwy’n ferched i Jack Gittins, fu’n aelod o’r grŵp Plethyn a bellach mae’n aelod o’r grŵp Yr Hen Fegin. Hefyd, cafwyd perfformiadau caboledig gan Dylan Cernyw a Gwenan Gibbard ar y delyn a chanu gwerin gan Gwilym Bowen Rhys. Mae talent yng Nghymru, coeliwch i fi.
Taith fer oedd yr arlwy ar gyfer bore Mercher i Old Leighlin i ymweld ȃ Chadeirlan St. aserian sydd I’r de odref Carlow. Dywedodd ein tywysydd Padraig hanes cythryblus y Gadeirlan wrthym. Cafodd yr Eglwys Gadeiriol ei hadeiladu’n wreiddiol fel mynachdy’n y seithfed ganrif, ond bu llawer o newidiadau hanesyddol a diddorol i’r adeilad yn ystod y canrifoedd canlynol. Dywedwyd bod Laserian, a roddodd ei enw i’r eglwys, wedi ei eni tua 566 o.c. i deulu bonheddig yr Ulaid o dras celtaidd. O galchfaen y gwnaed y fedyddfaen wreiddiol, ac yn ȏl traddodiad, os byth y symudir hi o’r eglwys yna fe fydd yn darganfod ei ffordd yn ȏl i mewn i’r eglwys!
Yn y 16 ganrif roedd llawer o’r clerigwyr yn defnyddio eu pwer i gyfoethogi eu hunain heb betruso dim am eraill, ond nid felly Maurice Doran a ordeinwyd yn Esgob Leighlin yn1524. Roedd o’n bregethwr grymus ac yn ddyn o egwyddor. Addawodd y byddai’n gwaredu’r eglwys o’r ‘drwgweithredwyr’. Un felly oedd yr Archddeacon Maurice Kavanagh. Llofruddiodd Kavanagh yr Esgob Doran, ond cythruddodd hyn y bobl leol. Daliwyd Kavanagh a’i grogi yn yr union fan lle roedd wedi lladd Doran. Tynnwyd ei berfedd allan a’u llosgi o flaen ei gorff. Mae gweddillion yr Esgob Doran yn gorwedd o flaen yr allor yn yr eglwys. Ia wir, cyfnod gwaedlyd iawn.
Diddorol iawn a dweud y lleiaf. Wedi’r ymweliad ȃ’r Gadeirlan cawsom bryd blasus yng Nghanolfan Gardd a Chartref Arboretum, nepell o’r Gadeirlan. Ar ȏl cyrraedd yn ȏl i Garlow, roedd y Cystadlaethau y Canu Gwerin Traddodiadol Unigol a chanu Gwerin Traddodiadol i Grwpiau. Enillydd y Canu Gwerin i Unigolion oedd Katell Klorea o Lydaw gyda Gwilym Bowen Rhys yn 3ydd. Ef hefyd enillodd y wobr am gyfansoddi y Gȃn Werin Wreiddiol Newydd. Tipyn o gamp!
Yn y gystadleuaeth y Canu Gwerin Traddodiadol i Grwpiau:
1af – Llydaw Grŵp Kadell Kloereg
2il – Cymru – Lo-Fi Jones
3ydd – Cymru Elin a Carys
Ar fore Iau roedd taith arall wedi ei threfnu gan Eluned i Felin Wlȃn Cushendale ym mhenterf Graiguenamanagh ar lan yr Afon Barrow. Hen fusnes teuluol sy’n dyddio’n ȏl i’r 1700’au ydyw ac yn dal i gynhyrchu eitemau crefftus ac artistig o wlȃn. Cawsom ein tywys o amgylch y gweithdy gan y perchennog, Trefor Cushendale. Diddorol ac addysgiadol yn wir. Aethom ymlaen oddi yno am damaid o ginio mewn bwyty bach ar y cei ar lan yr Afon Barrow. Gallech weld y bont enwog sy’n y pentref oddi yno. Mae saith bwa iddi ac fe’i hadeiladwyd yn 1764. Hynod o ddifyr. Mae nos Iau yn noson fawr – noson Cystadleuaeth Y Gȃn Rhyngwladol. Cynrychiolwyr Cymru’n y gystadleuaeth oedd enillwyr ‘Cȃn i Gymru’, sef y grŵp ifanc o ardal Caerfyrddin – Dros Dro. Daethont i’r brig mewn cystadleuaeth glos iawn. Ardderchog yn wir.
Prynhawn dydd Gwener yw amser YR ORYMDAITH, a do, fe gadwodd y glaw i ffordd. Roedd bwrlwm wrth i ni gerdded ar hyd strydoedd canol y dref a stopio i ddawnsio yma ac acw. Roedd awyrgylch hyfryd yna.
Ar ȏl Yr Orymdaith roedd rhaid rhuthro’n ȏl I’r Saith Derwen ar gyfer y Cystadlaethau Dawnsio. Y Llydawyr gyda’I dawnsio hudolus ddaeth I’r brig gyda’r dawnsio grŵp. Dawnswyr Delyn ddaeth yn ail a Dawnswyr Tipyn o Bopeth yn drydydd. Yn y Ddawns stepio unigol Angharad Owen o Ddawnswyr Delyn gyda dawnsio grymus iawn. Gwych! Llongyfarchiadau hefyd i Eleri Darkins ar ennill y Gystadleuaeth Unawd Telyn. Mae Eleri’n ferch yng nghyfraith i Meirick a Nesta Davies, Cefn Meiriadog. Roedd ei datganiad yn gelfydd iawn.
Am 7 y.h. roedd Cyngerdd y Corau’n y Gadeirlan gyda’r corau o gymru’n serenu yn awyrgylch hyfrydyr eglwys hardd hon. Orig i’w chofio’n wir. Gyda’r hwyr nos Wener yw Noson y Cymry ȃ phawb oedd wedi teithio i Garlow yn cael cyfle i berfformio, boed hynny’n gorau, unawdwyr, grwpiau, dawnswyr ac offerynnwyr. Uchafbwynt y noson oedd y deyrnged gerddorol a roddwyd gan Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw i’r diweddar Dewi Pws Morris fyddai’n cyrraedd yr Ŵyl bob blwyddyn ac yn cyfrannu i’r Noson Gymraeg. Diolch Dewi am ein diddanu’n dy ffordd ddihafal 1. dy hun. Bydd ei ganu o ‘Lleucu Llwyd’ yn aros yn y cȏf am byth.
Dydd Sadwrn yw Diwrnod y Corau a son am ‘gythraul canu’! Roedd chew chȏr o Gymru ac un o Ynysoedd yr Heledd (Hebridies) yn cystadlu’n y gwahanol gystadlaethau - Cȏr y Strade (Llanelli), Glanaethwy, Cȏr Esceifiog (Mȏn), Cȏr Cymunedol yr Ynys (Mȏn), Cȏr Taflais (Caerdydd), Cȏr Meibion Tȃf (Caerdydd) a Chȏr Binneas (Alban). Dyma’r canlyniadau :-
1: Cȏr Glanaethwy
2: Cȏr Ysgol y Strade
1: Cȏr Glanaethwy
2: Cȏr Binneas (Alban)
1: Cȏr Esceifiog
2: Cȏr Cymunedol yr Ynys
1: Genod Cȏr Cymunedol yr Ynys
2: Genod Esceifiog
1: Cȏr Meibion Tȃf
1: Cȏr Esceifiog
2: Cȏr Aelwyd yr Ynys
1: Cȏr Esceifiog
2: Cȏr Aelwyd yr Ynys
Llongyfarchiadau calonnog i Gȏr Esceifiog a’u harweinydd dawnus Catrin Angharad Jones. Yn wir, roedd y cystadlu ymhlith y corau’n dangos Cymru ar ei gorau.
Enillwyr y Gystadleuaeth Bysgio yn y dref ar y prynhawn sadwrn oedd Lo-Fi Jones. Da iawn chi, mae eich miwsig yn ddigon i godi calon unrhywun. Ar nodyn digon trist, roedd yn anffodus nad oedd cynrychiolwyr o Gernyw ac mai prin iawn yw’r cystadleuwyr o’r Iwerddon ei hun. Ta beth, mae yna wastad y flwyddyn nesaf!