pic01

Hanes

HanesCafwyd y syniad o gynnal Gŵyl Geltaidd yn nechrau 1970. Ffurfiwyd pwyllgor yn Killarney i edrych ar y posibilrwydd o drefnu Gŵyl yn y gwanwyn. Cafwyd sawl cynnig, gan gynnwys digwyddiad Geltaidd gan Con O Connaill. Dewisiwyd “Gŵyl Gerdd Bach” (y cyfansoddwr) gan y pwyllgor, ond penderfynnodd Con O Connaill fynd ymlaen i geisio trefnu Gŵyl Geltaidd ar ei liwt ei hun.

Ym Mai 1971 cynhaliwyd yr ŵyl geltaidd gyntaf, yr “Wythnos Ban Geltaidd”. Yr unig gyfrannogwyr o du allan i Iwerddon oedd dau o Gymru ( Meredydd a Phyllis Evans), a phump o Lydaw ( grwp Les Tregerez ac Alan Stivell).

Yn dilyn Gŵyl 1971, ar ôl awgrymiad gan Meredydd Evans, daeth Con O Connaill drosodd i’r Eisteddfod Genedlaethol i sefydlu cysylltiadau. Yn dilyn hyn ymwelodd â’r gwledydd celtaidd eraill gan sefydlu cysylltiadau ym mhob un, a’r cysylltiadau yma ffurfiodd gnewllyn y pwyllgorau. Mewn canlyniad daeth cynrychiolwyr o’r Alban, Llydaw, Cymru, Iwerddon, Cernyw ac Ynys Manaw i gymryd rhan yng Ngŵyl 1972.

Yn ystod Gŵyl Pan Geltaidd 1972 cafwyd cyfarfod ble y penderfynwyd sefydlu strwythur a gofynnwyd i Con O Connaill gynhyrchu drafft o gyfansoddiad a’i anfon i bawb oedd yn bresennol. Y bwriad oedd i bawb astudio a gweithio ar y drafft cyn Gŵyl 1973.

Cafodd y cyfansoddiad ei fabwysiadu mewn cyfarfod yn ystod y Gŵyl Pan Geltaidd 1973 ac yn fuan wedyn sefydlwyd chwe pwyllgor cenedlaethol yn cynrychioli diddordebau eu gwledydd.

Cynhaliwyd yr ŵyl yn Killarney tan 1990 pan benderfynnwyd newid lleoliad gan fod y gefnogaeth yn dechrau pallu. Cynhaliwyd yr ŵyl yn Galway (1991-1994), Tralee (1995-96), Ennis (1997) a wedyn dychwelyd i Tralee (1998- 2000). Ni allwyd cynnal Gŵyl yn 2001 oherwydd y clefyd traed a’r genau. Bu’r ŵyl yn Kilkenny (2002-2003), Tralee (2004 – 2005) a Letterkenny (2006 a 2007).

Y prif nôd yn ôl cyfansoddiad yr Ŵyl Ban Geltaidd yw i hyrwyddo a meithrin ieithoedd, diwylliant, cerddoriaeth, canu a chwaraeon Celtaidd, ac i annog cyfnewid gwybodaeth a thwristiaeth traws - Geltaidd yn y gwledydd Alba, Breizh, Cymru, Éire, Kernow a Mannin.

BLWYDDYN LLYWYDD GWLAD
1979 Mona Douglas Mannin
1980 Polig Monjarret Breizh
1981 Dave Crewes Kernow
1982 Donnchadha Ó Súilleabháin Éire
1983 Dolina MacLennon Alba
1984 Tegwyn Williams Cymru
1985 Graham Beechcroft Kernow
1986 Polig Monjarret Breizh
1987 Willie Lanigan Éire
1988 Flora MacNeil Alba
1989 Delwyn Phillips Cymru
1990 Dave Collister Mannin
1991 Pat Crewes Kernow
1992 Polig Monjarret Breizh
1993 Eibhlín Ní Chathalriabhaigh Éire
1994 Eibhlín Ní Chathalriabhaigh Éire
1995 Archibald Kennedy Alba
1996 Berwyn Williams Cymru
1997 Paul Travenna Kernow
1998 Roisín Ní Shé Éire
1999 Brian Stowel Mannin
2000 Maldwyn Parry Cymru
2001 Archibald Kennedy Alba
2002 Archibald Kennedy Alba
2003 Caitlín Ní Chaoimháinigh Éire
2004 John Bolitho Kernow
2005 Bobbie Evans Cymru
2006 John A. Maclver Alba
2007 Fiona McArdle Mannin
2008 Liam Ó Maolaodha Éire
2009 John A. Maclver Alba
2010 Emyr Wyn Thomas
Cymru
2011 Murdo Morrison Alba
2012 Margaret Bird Ynys Manaw
2013 Seán Ó Sé Éire
2014 Dave Crewes Kernow
2015 Arwel Roberts Cymru
2016 John A MacIver Alba
2017 Yann-Yvon Dodeur Breizh
2018 Clare Kilgallon Mannin
2019 Bláthnaid ÓBrádaigh Éire
BLWYDDYN
CANTORION/ GRWPIAU
GWLAD
TEITL Y GAN
1971 Scoil na Toirbhirte Éire Tomás MacCurtain
1972 Na h-Oganaigh Alba Mi is M'Uilinn
1973 Margaret O'Brein Éire Goirm Thú
1974 Joint winner: Iris Williams Cymru Cymru Rydd
  Joint winner:McMurrough Éire Cuain Baile 'na Cuairte
1975 Bran Cymru Caled Fwlch
1976 Mary Sandeman Alba Thoir dhom do Lamh
1977 Kyaalldan Breizh Breizh
1978 Gouelia Breizh Korn-Bout
1979 Margaret MacLeod Alba An Lon Dubh
1980 Dermot O'Brien Éire Neansaí
1981 Kathleen MacDonald Alba Oran do Cheit
1982 Bando Cymru Nid Llwynog Oedd Yr Haul
1983 Mary MacInnis Alba Man Aonar le no Smuaintean
1984 Ragamuffin Kernow Ar Wrannen
1985 Capercaillie Alba Urnuigh a Bhan Thigreach
1986 Kristen Nicolas Breizh Gwerz Maro Paotr Anst
1987 Eryr Wen Cymru Gloria Tyrd Adre
1988 Manon Llwyd Cymru Cân Wini
1989 Hefin Huws Cymru Twll Triongl
1990 Christine Kennedy Alba 'M' londrainn air Chuairt
1991 Philip Knight Kernow "Dolly"
1992 Gerróid O'Murchú Éire Soilse geala na cathrach
1993 Liam Ó hUaithne Éire An Pobal Scaipthe
1994 Geraint Griffiths Cymru Rhyw Ddydd
1995 Gwenda Owen Cymru Cân I'r Ynys Werdd
1996 West/Group Kernow An Arvair
1997 Art Ó Dufaigh/Sean Ó hEanaí Éire Comhartha an Ghaoil
1998 Arwel Wyn Roberts Cymru Rho dy Law
1999 Per Nod Cymru Torri'n Rhydd
2000 Rachael Cans tir Kemmyn Kernow Tir Kemmyn
2001 Gainor Haf Cymru Dagrau Ddoe
2002 Elin Flur a'r Moniars Cymru Harbwr Diogel
2003 Treiz Noath Kernow Mor Menta Sewia
2004 Kentyon Bew Kernow Treusporthys
2005 Krena Kernow Fordh Dhe Dalvann
2006 Gealbrí Éire Seolfaidh Me Abhaile
2007 Deirdre Níi Chinnéide le Fraoch Éire Ta me caillte go deo
2008 Aled Myrddin Cymru Atgofion
2009 Elfed Morris Cymru Boddi mae ngofidiau
2010 Ceòl 'S Craic Alba Sùilean Soilleir Ghorm
2011 Ynyr Roberts & Brigyn Cymru Rhywun Yn Rhywle
2012 Mordid Bewnans Kernow Benjad
2013 Benjad Kernow BretanVyhan.
2014 Shenn Scoill Mannin Tayrn Mee Thie
2015 An Stevel Dreylya Kernow Hal – An – Tow
2016 Cordia Cymru Dun ond Un
2017 Emer Ní Fhlaithearta Éire Taibhse
2018 P adraig Seoighe & Niall Teague Éire Ar Saoire