pic01

Manylion y Daith

Taith i Carlow/ Ceatharlach, Iwerddon EBRILL 2– 7 2024

Byddwn yn ymweld â’r dref uchod. Teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill 2 Bws cyffyrddus gyda cyfleusterau toiled arni. Cysyllter os oes gennych gyflwr meddygol, fyddai’n effeithio ar leoliad eich ystafell.

Costau y daith ( prisiau’n amodol, fe allent newid oherwydd ansicrwydd ariannol )

Gwesty’r 7 Derwen – Gwely a Brecwast. Dau yn rhannu y person £600 .Sengl -£695

Mae’r costau uchod yn cynnwys:

Teithio ar y bws ar long o Gymru i Ceatharlach ac yn ôl.
Pum noson gwely a brecwast.
Tocyn wythnos i holl weithgareddau Ŵyl.
Cildwrn i’r gyrrwr.

Manylion y daith.

Gadael Rhuddlan am chwech bore Mawrth – 2ail o Ebrill ( trefnir y mannau codi eto.) Teithio am Gaergybi ar long 8:55 a.m i Ddulyn. Cyrraedd Dulyn tua un y pnawn ac ymlaen am dref yr Ŵyl. Aros am bum noson. Bydd cyfle i ymweld a gwahanol atyniadau yn yr ardal ar y bws yn ystod yr wythnos. Cychwyn am adref tua deg y bore Sul os bydd y cwmni bws wedi archebu lle ar y llong ganol pnawn, neu fe all fod yn llong hwyrach fydd yn cyrraedd Caergybi tua hanner nos.

Ernes :- £50 a’r gweddill erbyn canol Chwefror, pob siec yn daladwy I MUDIAD CYMRU GŴYL BAN GELTAIDD.
Neu drwy BACS – Cysylltwch i gael y manylion gan Arwel, Fachwen Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP, ffon – 01745 590869/ 07813550998/ arwellroberts@tiscali.co.uk neu Tegwyn, Penbedw, Ffordd y Bryn, LLanelwy, LL17 0DD – Ffon 01745 583612.

Os y byddwch wedi talu’n llawn ac yn tynnu’n ôl oddi fewn i’r bythefnos cyn teithio anodd iawn fydd cyflwyno ad-daliad. Cofiwch fod gennych angen yswiriant teithio.