pic01

Newyddion a Digwyddiadau

NOSON GYMDEITHASOL

Cerddoriaeth werin fyw gyda
Nos Wener, 16eg o Fehefin 2023 - 7PM

Rhuddlan, Canolfan Gymunedol

£3

Am fyw o wybodaeth: menter@misirddinbych.cymru + 01745 81282

Poster NOSON GYMDEITHASOL


Gŵyl Ban Geltaidd 2024

Yn y flwyddyn 2024 fydd yr Ŵyl yn dychwelyd i Carlow
Ebrill 2ail i'r 7fed 2024.


Pan Celtic Results 2023 (Saesneg yn unig)

TRADITIONAL SINGING COMPETITION: SOLO
1st Place
ALBA – the 2022 Gold Medal Winner at the Mod in the Traditional Ladies Competition
ALICE NIC A’MHAOILEIN

2nd Place
ÉIRE – The 2022 Oireachtas Winner of the Female Sean-Nós Competition
SLÁINE NÍ CHATHALLÁIN

3rd Place
ÉIRE – The 2022 Oireachtas Winner of the Male Sean-Nós Competition
DOMHNALL Ó BRAONÁIN

 

TRADITIONAL SINGING COMPETITION: GROUP

1st Place
CYMRU – Moniars Bach

2nd Place
ALBA – Stratag

3rd Place
CYMRU – Hen Fegin

NEWLY COMPOSED SONG
CYMRU – Moniars Bach – Afon Bacsia

INTERNATIONAL SONG CONTEST

KERNOW – Karrygi Du


INSTRUMENTAL COMPETITIONS

Fiddle (Under-16)
1st Place
ÉIRE – Bethan Marsh

2nd Place
ÉIRE – Clíodhna Ní Chuilinn

3rd Place
ÉIRE – Caitríona Ní Raifeartaigh

 

FIDDLE (Adults)
1st Place
ÉIRE – Anna Quin

2nd Place
ÉIRE – River McGann

3rd Place
CYMRU – Imogen Evans

 

HARP (Adults)

1st Place
CYMRU – Cadi Glwys Davies

2nd Place
ÉIRE – Kieu Conroy

3rd Place
BREIZH – Mikael Herrou

 

DUETS (Under-16)

1st Place
ÉIRE – Kate Redfern & Tove Byres

2nd Place
ÉIRE – Clíodhna & Muireann Ní Chuilinn

 

DANCING COMPETITIONS

SOLO DANCE (Under-16)

1st Place
CYMRU – Sara Williams

2nd Place
ALBA – Ellyse Mollison

3rd Place
ALBA – Karys Mollison

 

SOLO DANCE (Adults)

1st Place
CYMRU – Cadi Glwys Davies

2nd Place
ÉIRE – Seán Ó Loingsigh

3rd Place
ALBA – Jamie Dima

DANCING COMPETITION: GROUPS

1st Place
CYMRU – Clocswyr Conwy

2nd Place
BREIZH – Eskell an Elorn / Beg an Douar

3rd Place
ALBA – Noreen-Marie Geddes School of Dancing

 

DANCING COMPETITION: NEW INVENTION DANCE

1st Place
ALBA – Celtic Snare

2nd Place
CYMRU – Clocswyr Conwy

3rd Place
CYMRU – Dawnswyr Caernarfon

 

CHORAL COMPETITIONS

 

COMPETITION A: MIXED CHOIRS

2nd Prize: Plaque & €200.

Cor Llundain

1st Prize: Perpetual Trophy & €250;

Cor CantiLena

 

COMPETITION B: MIXED RURAL CHOIRS
1st Prize: Perpetual Trophy (Glór na nGael Cup) & €250;

Cor Dre

 

COMPETITION C: FEMALE CHOIRS
1st Prize: Perpetual Trophy & €200;

Cor Yr Heli

 

COMPETITION D: MALE CHOIRS
1st Prize: Perpetual Trophy (ITGWU Cup) & €200;

Cor Colwyn

 

COMPETITION I: TRADITIONAL GROUP SINGING
(SPONSORED BY OIREACHTAS NA GAEILGE)

2nd Prize: €300.

Cor Yr Heli

1st Prize: Cearnaire na nEaltan - Perpetual Trophy & €500;

Cor Dre

 

COMPETITION H: Open Competition for Choirs
(with accompaniment)

2nd Prize: €100.

Cor Llundain

1st Prize: €150;

Cor Dre

 

BEST SONG PERFORMANCE BY A NON-PRIZEWINNING CHOIR
Trophy & €200

Cor Godre’r Garth
(SONG: Hen Ferchetan)

 

BEST OVERALL PERFORMANCE

The Pan Celtic Trophy & €200

Cor Dre

Pan Geltaidd 2023 - Full Festival programme

Pan Geltaidd 2023 - Full Festival programme (Saesneg yn unig)

Following a break of four long years, we are
delighted that the International Pan Celtic
Festival is back! And we are thrilled that
Carlow has been chosen as host town for
this amazing cultural festival.

Cliciwch yma am Rhaglen llawn yr Ŵyl


2023 Festival Schedule (Saesneg yn unig)logo

The schedule of official events will be the same as always:
Tuesday 11/4/'23: 7.30pm: PAN CELTIC OPENING & CONCERT in Visual.

Wed 12/4/'23:
3pm Traditional Singing Competitions (Groups) and 5pm (Solos) in Visual.
8pm: Festival Club hosted by BREIZH in Seven Oaks.
10pm: Results /Prizegiving - Trad Singing Competitions.

Thurs 13/4/'23:
7.30: International Pan Celtic Song Contest in Visual.
9.30pm: Festival Club hosted by KERNOW & MANNIN in Seven Oaks

Fri 14/4/'23:
12.00: Instrumental Competitions (Harp/Fiddle & Duet) in Seven Oaks.
2.00pm: Nations Parade/ Gathering
3.00pm: Celtic Dance Competitions in Seven Oaks.
7.30pm: Choral Concert in Carlow Cathedral
9.15pm: Festival Club hosted by CYMRU in Seven Oaks.

Sat 15/4/'23:
10.30 -5pm: Choral Competitions in St. Leo's College.
8pm: Results /Prizegiving - Trad Singing Competitions.
9pm: Festival Club hosted by ALBA in Seven Oaks.

OPENING CONCERT: Each nation is invited to perform some items giving a taste of our celtic cultures at the Opening Concert on the Tuesday night. BREIZH will actually not be in Carlow until Wednesday morning due to ferry timetables. ÉIRE will offer a few extra items to fill that space instead of having a Festival Club Night.

Côr Llundain


Ffurfiwyd Côr Llundain yn 2017 gan aelodau Aelwyd Llundain, wedi i ni sylweddoli’n bod ni’n rhy hen bellach i fod yn Aelwyd…! Erbyn hyn mae gennym 45 o aelodau o bob oedran, o fyfyrwyr israddedig i Gymry sydd wedi’u hymgartrefi yn Llundain ers degawdau. Yn ein plith mae athrawon, cyfreithwyr, cyfrifwyr, nyrsys, meddygon, gweision sifil, newyddiadurwyr, dylunwyr...yn ogystal ag ambell i gerddor! Ein nod yw hyrwyddo cerddoriaeth Cymru a’r iaith Gymraeg yn Llundain a thu hwnt. Cynhelir ein hymarferion i gyd, a’n gweithgareddau cymdeithasol hefyd, yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg, ac rydym yn blaenoriaethu cyfansoddwyr Cymraeg yn ein rhaglenni. Will Thomas yw'r arweinydd ers sefydlu'r cor, a Sioned Thomas erbyn hyn yw llywydd y cor.

Rydym wedi cystadlu ym mhrif gystadleuaeth corau cymysg yr Eisteddfod Genedlaethol pob blwyddyn ers ein sefydlu, sef 2018, 2019 a 2022. Eleni cawsom yr ail safle, ac er taw dim ond dau gôr oedd yn cystadlu, roeddwn ni’n hynod o falch bod y beirniaid wedi’n hystyried yn deilwng o wobr! Ond yn bwysicach na’r wobr oedd y cymryd rhan, eleni yn fwy nag erioed, wedi cyfnod y pandemic a’i amryw heriau.

Cyn y pandemic buodd y Côr yn ffodus i berfformio yn 10 Downing St, Ysgol Harrow (dan arweiniad Owain Arwel Hughes), capel Coleg y Drindod, Caergrawnt, a Chapel Jewin (gyda Gwyn Hughes Jones a Rebecca Evans). Rydym hefyd yn cefnogi cymanfa ganu flynyddol Llundain, ‘Cymanfa Westminster’.

Ein nod wrth i ni symud ymlaen dros y flwyddyn nesaf yw i dyfu ein haelodaeth, i atgyfnerthu ein cysylltiadau gyda’r byd corawl yng Nghymru, ac i barhau i gynnig cyfleoedd newydd a chyffroes i’n haelodau i berfformio, a'r cwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.


Michelle O’Neill aelod blaenllaw o Gynulliad Gogledd Iwerddon yng nghwmni arweinydd Plaid Cymru Adam Price yntau fel Heledd Fychan yn aelod o Senedd Cymru.

Cynhadledd Plaid Cymru.

Yng nghynadledd Plaid Cymru eleni roedd yn bleser cyfarfod Michelle O’Neill aelod blaenllaw o Gynulliad Gogledd Iwerddon yng nghwmni arweinydd Plaid Cymru Adam Price yntau fel Heledd Fychan yn aelod o Senedd Cymru.
Cyflwynwyd llun o Cofiwch Tryweryn iddi .


Gŵyl Ban Geltaidd yn ol yn 2023 (Saesneg yn unig)

Gyfeillion,
O’r diwedd daeth newyddion atom ynghylch yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Gwaith mawr rŵan o’n blaenau er mwyn trefnu cystadleuwyr a chefnogwyr.
Mwy o wybodaeth ar y ffordd.
Cofion caredig,
Arwel

A chairde,
I am pleased to announce that the Pan Celtic International Festival will resume in 2023!
We will be adhering to the traditional dates, commencing the day after Easter Bank Holiday Monday, therefore the official dates for the next festival are:
Tuesday – Sunday, 11 – 16 April 2023 (even though Sunday has always been included in the festival dates, events generally conclude late at night on the Saturday night of the festival to allow for travel time for delegations returning home.)
Ceatharlach has been appointed Host Town for the 2023 festival – Bríde de Róiste and her distinguished lieutenants, Emma & Ollie, have commenced preparations and an advance brochure will be forwarded to you.
We will also adhere to the general timetable of our previous festivals.
I would like to draw your attention to the Pan Celtic International Song Contest.
National Committees have a number of options open to them when entering for the 2023 Pan Celtic International Song Contest.
In instances where National Song Contests had already taken place by the time the 2020 festival was cancelled the winning songs may be entered in the 2023 Pan Celtic International Song Contest if National Committees wish to do so.
Such songs may be entered in addition to the winning song if a National Song Contest is held in 2023.
National Committees are not required to hold a National Song Contest in 2023 if they do not wish to do so.
This means that there may be 1 entry or 2 entries per nation in the 2023 competition.
The Pan Celtic website will be updated regularly.
Regarding accommodation – Bríde will forward details to you in due course.
I look forward to seeing you all again.
Le meas,
Máirín
MÁIRÍN NIC DHONNCHADHA
CEANNASAÍ


Fi mewn Tri - Prynhawn Da S4C

Yr Wyl Bangeltaidd Eleni

Yn anffodus bydd y criw o Gymru ddim yn mynychu yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni. Oherwydd yr haint y coronavirus mae y penderfyniad anffodus wedi ei gymeryd, mae amryw o achosion ar draws IWERDDON A Chymru yn gwneud inni fel pwyllgor yma yng Nghymru ofni sefyllfa ein cefnogwyr a’n cystadleuwyr. Mae amryw wedi derbyn y penderfyniad fel un doeth ac yn deall y sefyllfa argyfyngus sydd ar draws y byd yn enwedig yn yr Eidal.


image

Gruffudd Wyn o Amlwch enillydd y gystadleuaeth Can i Gymru 2020.

Bydd yn ymgeisydd cryf eleni yn y gystadleuaeth rhyngwladol draw yng Ngharlow – Gŵyl Ban Geltaidd llwyddiannus iddo.


Corau - Un o Gaerfyrddin – Cor Tonic (Merched) Cor ‘Narfon (Merched), Cor y Ddinas (Llundain) ( Merched)
Cor Ieuenctid - Sir y Fflint.
Corau Dynion - Cor y Llanau ( Sir Fon), Llanbobman
Cor Cymysg - Cor y Cei ( Cymysgedd o Llanbobman a Cor merched ‘Narfon)
Dawnswyr - Clocswyr ifanc o Sir Conwy, Tipyn o Bopeth a Dawnswyr Caernarfon.
Unigolion - Canu Gwerin – Gwen Edwards o Fon. Erin Swyn Williams o Lanefydd ac Efan Williams o Geredigion
Grwp Gwerin - Band Arfon Wyn – ei enw GESHA.
Dwy yn dawnsio yn unigol
Ffidl - Imogen
- Jess
Telyn - Jess
Deuawd offerynnol - Jess a’i gwr.
Beirnadu - Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw – cerdd
Dawnsio - Menna a Morfudd Jones.

Yr Ŵyl Ban Geltaidd Carlow, Ebrill 14 -19 2020

Annwyl cystadleuwyr,

Dyma beth sydd angen arnoch i gystadlu yn yr ŵyl eleni.
Ewch ar tudalen www.panceltic.ie Dyma safwe yr ŵyl yn Carlow. Cliciwch COMPETITIONS a welwch yr holl gystadlaethau / cliciwch ar y rheolau ac i’r gwybodaeth sydd angen arnoch. Llenwch y ffurflen / ffurflenni (un ffurflen i bob cystadleuaeth) ac anfon i mi, os gwelwch yn dda.

Unawd a Grwpiau Gwerin
Cewch ganu cân newydd os ydych chi’n dymuno. Rhaid anfon copi o’r geiriau a’r cerddoriaeth ymlaen ataf ymlaen llaw. Does dim modd cystadlu heb gopi o’r cerddoriaeth.


Corau
Mae nifer o gystadlaethau ar eich cyfer. Defnyddiwch un ffurflen ar gyfer pob un.
Does dim tâl am gystadlu, mae pwyllgor Cymru yn gwneud.

Bydd angen i chi anfon eich copiau trwy e bost i mi hefyd. Anwybyddwch y rheol am gopiau. Gallwch sganio’r copiau ac anfon ataf, gan nodi enw’r côr a pha gystadleuaeth.


Byddaf angen popeth mewn erbyn Chwefror 21

Gwybodaeth: Bydd Noson Lawen y Cymru ar nos Sadwrn eleni am y tro cyntaf.

Oes oes angen cymorth, cysylltwch a mi. catrinannthom@gmail.com


Rhif Cartref: 01267281361
Symudol: 07525008494
Cyfeiriad: Cynefin,
Pentre Morgan,
Bronwydd Arms
Sir Gaerfyrddin
SA336JG


Pob hwyl i chi gyd.

Catrin Thomas, trefnydd gystadlu dros Gymru.


Ŵyl yn disgwyl amdanom yn Ceatharlach – Carlow

Annwyl cyd- geltiaid,

Mi fyddwn yma am byth yn chwifio baner y ddraig goch!

Mae yr Ŵyl yn disgwyl amdanom yn Ceatharlach – Carlow. 14ddeg tan yr 19fed o Ebrill.

Rydym yn ôl ein harfer yn cyd – gyfarfod cyn y daith drosodd. Eleni dyma’r dyddiad.
Nos Sadwrn yr 8fed o Chwefror pawb i gyrraedd erbyn 7pm ac wedyn i fwyta pryd maethlon. 7:30pm,
Dyma’r fwydlen – bwffe poeth.. y tri – Chicken and Ham Pie – with a white wine, vegetable & cream sauce tipped with shortcrust.
Beef hot pot – traditionally Slow Braised Prime Beef with root vegetables and potatoes.
Vegetable lasagne served with coleslaw. Sglodion hefyd..

Mi fedrwch ddewis cymysgedd o’r tri ond peidier bod yn farus ynte!! Hoffwn wybod pwy sydd yn arddel ei bod yn lysieuwyr cyn y noson ac wrth gwrs faint ohonoch fydd yn dod. Byddwn yn codi £20 ar bawb..

Hoffwn wybod pwy sydd yn mynychu erbyn y 5ed o Chwefror..

Mae gan y Bod Erw ddwy ystafell i chi aros – hunan gynhaliol - £75. – ffon 01745 584638 boderw@live.co.uk

Dros y ffordd mae’r Talardy 01745 799314 – gwerth ei ystyried.

Rydym yn hyderus y bydd Dylan a Gwenan gyda ni – diolch iddynt. Rydym am ddangos lluniau drwy gyfrwng taflunydd hefyd – diolch i Lun ac Awen..

Cynhelir raffl ar y noson.

Hwyl,

Arwel


image

Noson gyda CorDydd a Chôr Ruthun, Chwefror 1af, 2020

Arweinydd y noson Nic Parry
Chwefror 1af, 2020.
Pafiliwn y Rhyl
7.00 yh
Tocynnau £20

Am docynnau, cysylltwch â Arwel Roberts 07813550998

 


The International Pan Celtic Festival 2020 (Saesneg yn unig)
CEATHARLACH, CO. CARLOW, IRELAND 14 th ~ 19 th April
image

Accommodation - Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


GYFEILLION

Gwyl Ban Geltaidd 2020.
CEATHARLACH ( CARLOW) EBRILL 14 – 19.


Byddwn yn ymweld â’r dref uchod. Teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill 14ddeg ac mae gennym ddewis o leoliadau i chi aros am bump noson. Bws cyffyrddus gyda cyfleusterau toiled arni. Cysyllter os oes gennych gyflwr meddygol, fyddai’n effeithio ar leoliad eich ystafell.

Costau y daith ( prisiau’n amodol, fe allent newid oherwydd ansicrwydd ariannol )
Gwesty’r 7 Derwen – Gwely a Brecwast. Dau yn rhannu y person £490 .Sengl - £600.
Red Setter Town House – ystafelloedd dau yn rhannu y person £370. Sengl - £410.
The Clink Boutique Hotel and Eatery – ystafelloedd i ddau berson yn rhannu - £410 y person
ystafelloedd i dri yn rhannu £405 y person,ystafelloedd i bedwar yn rhannu - £350 y person.
Racey Byrne – The Plough - ystafelloedd dau yn rhannu y person - £380.

Mae’r costau uchod yn cynnwys:
Teithio ar y bws ar long o Gymru i Ceatharlach ac yn ôl.
Pum noson gwely a brecwast.
Tocyn wythnos i holl weithgareddau Ŵyl.
Cildwrn i’r gyrrwr.

Manylion y daith.
Gadael Llanelwy am chwech bore Mawrth – 14ddeg o Ebrill ( trefnir y mannau codi eto.) Teithio am Gaergybi ar long 8:55 a.m i Ddulyn. Cyrraedd Dulyn tua un y pnawn ac ymlaen am dref yr Ŵyl. Aros am bum noson. Bydd cyfle i ymweld a gwahanol atyniadau yn yr ardal ar y bws yn ystod yr wythnos. Cychwyn am adref tua deg y bore Sul os bydd y cwmni bws wedi archebu lle ar y llong ganol pnawn, neu fe all fod yn llong hwyrach fydd yn cyrraedd Caergybi tua hanner nos.

Ernes :- £50 a’r gweddill erbyn canol Chwefror, pob siec yn daladwy I MUDIAD CYMRU GŴYL BAN GELTAIDD. Mwy o fanylion gan Arwel, Fachwen Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP, ffon – 01745 590869 / 07813550998 - arwellroberts@tiscali.co.uk neu Tegwyn, Penbedw, Ffordd y Bryn, LLanelwy, LL17 0DD – Ffon 01745 583612.
Os y byddwch wedi talu’n llawn ac yn tynnu’n ôl oddi fewn i’r bythefnos cyn teithio anodd iawn fydd cyflwyno ad-daliad. Cofiwch fod gennych angen yswiriant teithio.

 

 

PosterDewch draw i Rhuddlan.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Letterkenny eto eleniimage

Unwaith eto eleni yn Letterkenny, Swydd Donegal, yng nghornel Ogledd Orllewinol Gweriniaeth Iwerddon y cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn syth ar ôl dathlu’r Pasg. Teithiodd llond bws ohonom o Ogledd Cymru â’r daith o Gaergybi i Letterkenny’n cymryd tua pedair awr a hanner! Ta waeth, cawsom dywydd braf i gwblhau’r siwrna a’r croeso wedi inni gyrraedd yn dwyngalon.

Yn y Noson Agoriadol ar y nos Fawrth, cynrychiolwyd Cymru gan Ieuan ap Sion yn canu’r Anthem Geltaidd, Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw ar eu telynnau a’r Brodyr Magee o Gaergybi. Cynrychiolaeth deilwng iawn. Diolch i chi.

Roedd pump côr o Gymru yn rhan o’r Ŵyl - Côr y Brythoniaid, Meibion Marchan o ardal Rhuthun, Côr Glanaethwy ( y rhieni a ffrindiau), Côr y Ddinas o Lundain a Chôr Cantilena. Daeth bob un o’r corau i’r brîg mewn gwahanol gystadlaethau. Llongyfarchiadau i chi i gyd. Enillodd Côr Cantilena y Gystadleuaeth Agored i Gorau ac hefyd nhw enillodd Gôr yr Ŵyl. Ardderchog. Côr newydd o bobl ifanc o Ddyffryn Conwy yw Côr Cantilena sydd wedi ei ffurfio i gystadlu’n yr Eisteddfod Genedlaethol eleni’n Llanrwst. Mae nhw’n chwip o gôr. Pob lwc i’r côr ac i’w harweinyddes frwyfrydig, Angharad Ellis.

Dyma fanylion y cystadlaethau corawl :-

Cystadleuaeth i Gorau Cymysg – 1. Côr Cantilena 2. Côr Glanaethwy
Cystadleuaeth i Gorau Merched – 1. Côr glanaethwy 2. Côr y Ddinas
Cystadleuaeth i Gorau Meibion – 1. Côr y Brythoniaid 2. Meibion Marchan
Cystadleuaeth i Gorau’n Canu Caneuon Traddodiadoll – 1. Côr Glanaethwy 2. Côr Burach o’r Alban
Cystadleuaeth Agored i’r Holl Gorau – 1. Côr Cantilena 2. Côr y Brythoniaid
Y Perfformiad Gorau gan Gôr yn yr Ŵyl (Côr yr Ŵyl) – Côr Cantilena.

Gwych iawn a diolch i bob côr, eu harweinyddion a’u cyfeilyddion am gefnogi’r Ŵyl.

Enillydd Cystadleuaeth y Gân Werin Unigol unwaith eto eleni oedd Gwilym Bowen Rhys o Fethel, Arfon gyda’i ddatganiad o’r Eneth Gadd ei Gwrthod a chyfansoddiad newydd o gân werin o’r enw Owain Lawgoch. Gwych. Enillodd y wobr gyntaf am Gyfansoddi Cân Werin Newydd. Da iawn ti Gwilym. Daeth Y Brodyr Magee yn ail yn y Gystadleuaeth Grŵp Gwerin. Diolch i chi hogia, da chi’n ffyddlon eich cefnogaeth i’r Ŵyl.

Yr Iwerddon enillodd Gystadleuaeth y Gân Ryngwladol gyda Gymru’n dynn ar eu sodlau, gyda un marc o wahaniaeth rhyngddynt. Yn cynrychioli Cymru y tro hwn oedd Elidyr Glyn a enillodd Cân i Gymru. Diolch Elidyr a’r grŵp Yr Ogiau.

Nid oedd cystadleuwyr i’r gystadleuaeth i Ddawnswyr Gwerin Unigol, ond yn y ddwy Gystadlaethau i Grwpiau Dawnsio Gwerin y Llydawyr ddaeth i’r brîg ar y ddau achlysur gyda Dawnswyr Tipyn o Bopeth yn ail da iddynt.

Roedd Tammy Jones, y gantores canu gwlad enwog o Landegai, a’i ffrind ar y daith hefo ni eleni. Canodd Tammy’n Noson y Cymry – roedd yn hyfryd clywed ei llais unwaith eto mor glir ac erioed. Mae’n dipyn o gymeriad! Diolch Tammy.

Aethom ar ddau drip yn ystod yr wythnos – un i Barc Cenedlaethol Glen Veigh lle y cerddais am filltiroedd! Roeddem y lwcus o’r tywydd – ‘lle i enaid gael llonydd’. Ymweliad arall oedd i Oleudy Penrhyn Fanad. Dim cymaint o lwc hefo’r tywydd y tro hwn – glaw mawr! – Mae golygfeydd gwych i’w gweld yno pan fo’r tywydd yn ffafriol! Ta waeth, cawsom fynd yn gynt am ginio blasus a chroeso cynnes iawn yn y ‘Lighthouse Tavern’ cyn rhuthro’n ôl ar gyfer Y Parêd drwy Stryd Fawr Letterkenny, ac erbyn hynny roedd wedi stopio bwrw!

Os fyddwch chi’n ymweld ag ardal Letterkenny ar eich gwyliau gwnewch bwynt o fynd am bryd i fwyty’r ‘Yellow Pepper’ ar waelod y Stryd Fawr. Chewch chi mo’ch siomi. Mae’r bwyd môr yn fendigedig yno!

I weld mwy o luniau - cliciwch yma


Elidyr Glyn enillydd Can i Gymru 2019

LLongyfarchiadau i Elidyr Glyn enillydd Can i Gymru 2019.


Diolch gan Cor Cytgan Rhuthun wedi ei llwyddiant yn yr Wyl yng Ngharlow 2017

I CHI fel pwyllgor mae'r diolch Arwel. Hawdd iawn oedd dod draw a chanu. Gennych chi oedd yr holl waith caled o flaen llaw, ac yn wir roedd yr holl drefniadau yn ardderchog ac yn sicrhau ein bod ninnau yn gallu mwynhau pob eiliad o'r wyl!
Ann, Morwen a Chôr Cytgan Clwyd


Gŵyl Ban Geltaidd 2019

Cefnogwyr a ffrindiau yr Ŵyl dewch draw i’r Eagles Llanrwst nos Sadwrn y 9fed o Fawrth. Cyfle i ymgomio ac i ganu – dewch a’ch ffrindiau gyda chi gyfeillion – swper yn £14.95. Diolch i Nan a Meurig am drefnu yr aduniad hwn.
Cyfle i drafod trefniadau yr Ŵyl eleni – teithio am Letterkenny ar y 23ain o Ebrill. Edrych yn ôl ar y Gŵyliau a fu – atgofion melys am An-daingle, Caetharlach, Gallim a Thralee!!

Pwy sydd yn rhydd?

Hwyl,

Arwel ac Awen


imageCyngerdd i Gofio am Meirion Hughes

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

imageLluniau Gŵyl Ban Geltaidd 2018

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


Yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Letterkenny (Leitir Ceannain) yn 2018

Mae deuddeng mlynedd ers i’r Ŵyl ymweld â Letterkenny yn Nonegal ddiwethaf. Mae Letterkenny’n dref wledig sydd rhyw hanner awr mewn car o Derry yng Ngogledd Iwerddon. Mae’n dref sydd bellach yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr o bob rhan o’r byd ac felly’n fangre digon llewyrchus.

Tywydd digon oer a glawog gawsom ni ar y cyfan, ond wnaeth hynny darfu dim ar ein mwynhâd. Teithiodd y llond bws arferol o Ogledd Cymru draw am Yr Ynys Werdd gan gyrraedd Letterkenny tua pump yr hwyr ar ôl taith o dros pedair awr yn y bws cyn cyrraedd pen ein taith.

Agorwyd yr Ŵyl ar y nos Fawrth yng Ngwesty’r Mount Errigal, lle roeddem ni’n aros. Cawsom agoriad teilwng i’r Ŵyl gyda’r Gwledydd Celtaidd yn rhoi blas inni o’r hyn oedd i ddod yn ystod yr wythnos mewn cerddoriaeth a chân. Cynrychiolwyd ni’r Cymry’n y seremoni gan Ieuan ap Sion yn canu’r Anthem Geltaidd yn wych gyda Dylan Cernyw a Gwenan Gibbard yn cyfeilio iddo ar eu telynau. Aeth y telynorion ymlaen i’n swyno â chyfraniadau celfydd ar eu hofferynnau. Diolch o galon i’r tri ohonoch.

Dydd Mercher cawsom daith yn ôl i Derry sydd nepell o Letterkenny. Yn anffodus, roedd yn ddiwrnod digon gwlyb a gwyntog. Serch hynny, mentrodd nifer i gerdded waliau’r ddinas a thros y Bont Heddwch sy’n uno’r ddwy gymuned sydd bob ochr i’r Afon Foyle. Aeth eraill ohonom, llai mentrus ar y fath dywydd, i ymweld â’r Bogside ac Amgueddfa Derry Rydd cyn troi am y Ganolfan Treftadaeth gerllaw am ginio blasus – rhâd a da!

Bu rhai’n gallach efallai ac aros yn Letterkenny lle buont yn rhan o sesiwn dweud storiau o Gymru yn Llyfrgell Ganolog y dref. Cafwyd hwyl rhyfeddol yn ôl bob son gyda nifer o’r gwledydd celtaidd eraill yn dweud ambell i stori hefyd.

O dri’r prynhawn ymlaen roedd y Cystadlaethau Canu Gwerin i unigolion a grwpiau yn Theatr An Grianan yng nghanol y dref. Daeth Catrin Jones o Ynys Môn yn gyntaf ar y Gân Werin Unigol a Bethany Celyn o Ddinbych yn drydydd. Ond, nid dyna’r diwedd, enillodd Gwilym Bowen Rhys yr Unawd o Gân Werin Wreiddiol Newydd. Gwych iawn.

Yng Nghystadleuaeth y Grwpiau Gwerin, cipiwyd y wobr gyntaf i Grŵp Traddodiadoll gan Grŵp Sir Fôn a’r Grŵp Gorau gyda Cân Newydd yn mynd i’r Brodyr Magee o Gaergybi. Da iawn Ynys Môn!

Yn ystod Dydd Iau aethom ar daith diwrnod ar draws Swydd Donegal ac anelu am arfordir y De Orllewin. I ddechrau fe stopio ni yn nhref fechan ARDARA sy’n ganolfan gwehyddu brethyn Donegal. Cawsom arddangosfa o’r gwehydd wrth ei waith ar ŵydd draddodiadol a disgrifiad o’r proses o droi’r gwlân yn ddilledyn gorffenedig. Hynod o ddiddorol. Prin oedd y rhai a brynodd ddilledyn yn y siop, er i ambell un brynu cap drudfawr o frethyn taclus i gadw eu pennau’n gynnes rhag yr oerfel! Roedd rhaid cael paned cyn teithio ‘mlaen heibio KILLYBEGS sy’n borthladd pysgota pwysig a phrysur.

Yn CARRICK cawsom ginio o gawl cartref a brechdannau cyn teithio ymhellach am yr arfordir a CHLOGWYNI SLEEVE LIAG. Ystyr ‘sleeve liag’ yw cerrig llyfn, gwastad. Roedd hynny’n amlwg o weld y clogwynni syth a llyfn! Roedd y golygfeydd o ben y clogwyni’n syfrdanol ac werth y daith hir yno. Mae’r clogwyni yma mor uchel a thrawiadol a Chlogwyni Moher yn Swydd Clare, ond ddim mor enwog efallai. Diwrnod gwerth chweil yn wir.

Noson Y Gân Rhyngwladol yw nos Iau. Cynhaliwyd y gystadlleuaeth yn Theatr An Grianan gyda grŵp Ceidwad y Gân o ardal Rhewl, Sir Ddinbych, yn ein cynrychioli. Ceidwad y Gân enillodd ‘Cân i Gymru’ eleni gyda cyfansoddiad Erfyl Owen ‘Cofio Hedd Wyn’. Mae’r grŵp ifanc hwn yn mynd o nerth i nerth ac yn gwneud mwy a mwy o’u canu drwy’r Gymraeg. Da iawn chi hogia a diolch am eich agwedd hawddgar, iachus tuag at bopeth. Edrychwn ‘mlaen at glywed mwy o’ch hanes yn y dyfodol.

Fore Gwener ni fu taith oherwydd iddi dywallt y glaw. I rai ohonom roedd yn gyfle i hamddena a chael brecwast hwyr cyn mynd i nofio dipyn ym mhwll nofio’r gwesty – er y buasem wedi gallu gwneud hynny y tu allan gan ei bod wedi bwrw cymaint!

Y cwestiwn mawr oedd ‘A fyddai’r Parêd drwy Stryd Fawr y dref yn digwydd ai peidio oherwydd y glaw? Ond, wyddoch chi beth, daeth ffenestr o haul yng nghanol y duwch ac fe gawsom ni Barêd Celtaidd o’r radd flaenaf. Roedd y Parêd yn llawn hwyl a miwsig gan gynrychiolwyr o’r Gwledydd Celtaidd. Gorffennodd Y Parêd yn y Ganolfan Siopa ar y Stryd Fawr lle cawsom, unwaith eto, glywed cerddoriaeth Geltaidd a chlywed canlyniad y Gystadleuaeth Fysgio a ddigwyddodd yn ystod y bore mewn mannau gwahanol ar y Stryd Fawr. Enillwyr y gystadleuaeth oedd Y Gwehilion (Grŵp Gwilym Bowen Rhys, Bethany Cleyn, Iestyn Tyne a chyfaill arall) gyda’r Brodyr Magee yn ail teilwng iddynt. Grŵp o Gernyw ddaeth yn drydydd. Cawsom gyfle i’w clywed i gyd a hynny o dan dô! Ardderchog yn wir. Roedd bwrlwm eu miwsig yn heintus. Diolch i’r ddau grŵp.

Yn anffodus, nid oedd Grwpiau Dawnsio Gwerin o unrhyw wlad yn cystadlu eleni. Roedd hyd yn oed y Llydawyr wedi dod a chantorion drosodd y flwyddyn yma yn hytrach na dawnswyr. Trueni mawr.

Am 7 yr hwyr ar y nos Wener, cynhaliwyd Cyngerdd y Corau yn Theatr An Grianan gyda pump côr o Gymru’n canu ynddo – Côrdydd o Gaerdydd, Eryrod Meirion o ardal Llanuwchllyn, Côr Dre a Chôr Narfon o Gaernarfon a Chôr Meibion y Ddwylan o Ynys Môn. Roedd gwrando ar y corau o’r holl wledydd celtaidd yn y theatr yn brofiad synhwyrus iawn.

Yna, i ddiweddu’r noson, cynhaliwyd Noson y Cymry yng Ngwesty’r Mount Errigal. Roedd yr holl gystadleuwyr wedi cyrraedd bellach – yn unigolion, grwpiau a chorau – i’n diddanu heb y boen o gystadlu. Noson wefreiddiol fel arfer a aeth ymlaen am oriau!

Dydd Sadwrn yw Diwrnod y Corau, ac, yn wir, dylem fod yn falch iawn o bob un o’n corau o Gymru. Dyma’r canlyniadau :- Côr Cymysg - 1af, Côrdydd
Côr Meibion - 1af, Eryrod Meirion
2il, Côr Meibion y Ddwylan

Côr Clasurol (Canu Traddodiadoll) - 1af, Eryrod Meirion,
2il, Côr Dre

Cystadleuaeth Agored i Gorau - 1af, Côrdydd
2il, Eryrod Meirion

Y Perfformiad Gorau gan gôr na enillodd wobr - Côr Narfon

Y Perfformiad Gorau gan Gôr - Côrdydd

Llongyfarchiadau i Gôrdydd ar ennill Gwobr Côr yr Ŵyl a hynny’n gwbl haeddiannol ac i’w harweinydd Huw Foulkes, o Fethel, Arfon yn wreiddiol, am ei arweiniad egniol. Diolch am fynychu’r Ŵyl a gobeithio y dewch chi eto.

Yn y cystadlaethau ffidil, daeth James Magee yn drydydd yn y Gystadleuaeth i Unigolion dros 18 oed ac i James a Paul Magee ar ddod yn ail yn y Ddeuawd Ffidil. Da iawn chi hogia. I’r brîg unwaith eto ar Ganu’r Delyn dros 18 oed daeth Math Roberts. Llongyfarchiadau calonnog iawn iti unwaith eto. Ardderchog y tri ohonoch.

Ar y nos Sadwrn cyflwynwyd y tlysau i’r corau buddugol yn y gwahanol gategoriau yng Ngwesty’r Mount Errigal. Llongyfarchiadau i chi i gyd ac am eich gwaith caled wrth baratoi am yr Ŵyl. Yn ystod y sesiwn yma o wobrwyo, cyflwynwyd gacen penblwydd i Margiad Williams, Llanelwy i ddathlu ei phenblwydd yn 80 oed. Mae Margiad wedi bod yn gefn mawr i Tegwyn wrth iddo drefnu i gael y Cymry drosodd i’r Ŵyl ers blynyddoedd maith. Llongyfarchiadau Margiad a diolch am bopeth.

Wrth i ni hel am adref ar y bore Sul yr argraff pennaf sy’n aros yn y côf yw cymaint o Gymry ifanc sydd bellach yn mynychu’r Ŵyl gyda’u bwrlwm ac afiaith. Hir y parhaed a daliwch i ddod! Diolch i bobl Letterkenny am eu croeso. Buan iawn yr hedfanith blwyddyn arall ac fe fyddwn yn ôl yno!


imageYr Ŵyl Ban Geltaidd

Noson agoriadol - Mae ein hoff ganwr Ieuan ap Sion am ganu eleni (Can y Celtiaid) yn y noson agoriadol nos Fawrth y 3ydd o Ebrill yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni.
Wrth gwrs bydd Gwenan Gibbard a Dylan Cernyw ar y llwyfan gydag ef.
Y noson wedyn bydd Gwilym Rhys a’i griw. Y brodyr Magee, Catrin Angharad a’i chriw yn ymgiprys am y tlysau yn y cystadlu Canu Traddodiadoll.
Nos Iau bydd y gan a enillodd yn y gystadleuaeth Can i Gymru eleni yn y gystadleuaeth Can yr Ŵyl – pob llwyddiant i’r Grwp Ceidwad y Gan – pobl Sir Ddinbych yn meddwl y byd ohonynt .Rhewl yn enwedig.
Nos Wener – beth am ddod i’r cyngerdd yn y theatr yng nghanol y dref ( Letterkenny) ac wedyn i noson y Cymry yng Ngwesty y Mt Errigl.
Dydd Sadwrn – byddwn yn edrych ymlaen i weld ac i wrando ar y corau yn canu. Y Cymry yn gryf eto eleni – dewch ona Cor Dre, Cor Narfon, Cor Dydd, Eryrod Meirion, a Hogia’r Ddwylan.

Teithio adref ar y Sul – lle ar y bws ar hyn o bryd – dau .


Noson arbennig yn Pontio Bangor

Noson arbennig yn Pontio Bangor – y gan fuddugol yn y gystadleuaeth Can i Gymru 2018 – cyfansoddwr Erfyl Owen ( Bov ) – perfformwyd y gân gan y grwp Ceidwad y Gân, prif leisydd Harri Owen mab Erfyl a Diane Owen. Teitl y gân – “Hedd Wyn”.


Cynhaliwyd Noson Arbennig Yn Ngwesty Y Stamford Gate Treffynnon ar y 17fed o Chwefror 2018

Da oedd croesawu nifer o ffyddloniaid yr Wyl Ban Geltaidd i’r noson.
Diolch yn fawr i Gwenan Gibbard, Dylan Cernyw a Ieuan ap Sion yn ein diddori a’r croeso gwych a gawsom gan berchennog y gwesty a’r staff.

i weld mwy o luniau - cliciwch yma


Trefnu Aduniad Yr Wyl Ban Geltaidd

Gyfeillion,
Bob blwyddyn cyn ymweld â’r Wyl Ban Geltaidd rydym yn trefnu aduniad. Eleni y dyddiad yw yr 17fed o Chwefror yn y Stamford Gate Treffynnon – yno i gyd siarad a chanu. Sgwrsio am y dyfodol – Letterkenny – Ebrill y 3ydd tan yr 8fed o Ebrill a hel atgofion. Mae gennym fwydlen i chi astudio – Cyri gyda Reis a Sglodion, Lasagne gyda salad a bara garlleg, Stiw Beef neu Lamb Hotpot - £11. Mi fedrwch archebu pwdin yn ychwanegol. Os ydych am fynychu cysyllter â mi ac Awen – 01745 590869. Neu ar arwellroberts@tiscali.co.uk

 

Pan Celtic Festival (Saesneg yn unig...)

poster

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 


Gwyl Ban Geltaidd Ebrill 3 – Ebrill 8fed 2018 – Letterkenny – Leiter Ceanair.

poster

 

Mae Letterkenny yn barod amdanom – Ebrill y 3ydd i’r 8fed o Ebrill 2018. Wele rhestr o westai ac yn y blaen..

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth
Cliciwch yma am rhestr llety


 

 


Carlow 2017

Cliciwch yma i weld mwy o lluniau


Yr Ŵyl Ban Geltaidd yng Ngharlow (Ceatharlech) yn 2017

Roedd y Pasg yn hwyr eleni, felly cynhaliwyd yr Ŵyl rhwng Ebrill 18 – 23 gyda’r tywydd yn sych a heulog, os dipyn yn oer! Teithiodd y llond bws arferol o Ogledd Cymru draw am yr Ynys Werdd gan gyrraedd Carlow (Ceatharlach yn y Wyddeleg) ar awr resymol, sef tua 2.30 y pnawn. Mae Carlow’n dref marchnad wledig sydd wedi dangos croeso anghyffredin tuag atom yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Agorwyd yr Ŵyl eleni ar y nos Fawrth yng Nghanolfan y Celfyddydau Gweledol gyda Dafydd Iawn yn canu’r Anthem Geltaidd. Anthem mae ef ei hun wedi ei hysgrifennu gyda Hefin Ellis yn cyfansoddi’r gerddoriaeth. Roedd gwrando ar Dafydd yn canu yn ysbrydoliaeth i ni i gyd i uno â’n brodyr Celtaidd. Artistiaid eraill o Gymru a gyfrannodd i lwyddiant ysgubol y noson oedd Dylan Cernyw a Gwenan Gibbard, y telynorion, Dawnswyr Talog a’r Brodyr Magee o Gaergybi.

Dydd Mercher buom yn ymweld â Chastell Huntington sydd y tu allan i Wicklow – tŷ bonedd hynod o ddiddorol â’r croeso’n gynnes iawn yno, ynghyd â’r sgonnau blasus!

Nos Fercher yw noson y Canu Gwerin i unigolion a grwpiau. Bu 14 o unigolion yn cystadlu ar Y Gân Werin Unigol gyda’r cystadleuydd olaf, sef Gwilym Bowen Rhys o Fethel, Arfon yn dod i’r brîg a Bethany Celyn o Ddinbych yn Drydydd. Gwych iawn. Ond, nid dyna’r diwedd; enillodd Y Brodyr Magee y gystadleuaeth i’r grwpiau gwerin gyda Grŵp Gwilym, Bethany a Gethin yn ail. Enillodd Anni Llŷn y gystadleuaeth am y Gân Werin Wreiddiol orau. Dyna i chi dalent ynte!

Yn ystod Dydd Iau aethom ar daith i ymweld â thref Wicklow, ac yn arbennig, Carchar y Dref. Erbyn hyn, wrth gwrs, amgueddfa yw’r carchar, ond ar ei phrysuraf, roedd dros saith gant o garcharorion yno. Cafodd un truan ei garcharu am saith mlynedd am ddwyn hwrdd gŵr bonheddig lleol. Cafodd nifer eu crogi am y peth lleiaf, yna, torri eu pennau i ffwrdd a gadael y penglogau i’r barcudi aid i bigo arnynt!
Noson Y Gân Ryngwladol yw nos Iau gyda Cadi Gwyn o Landdoged, Llanrwst, yn ein cynrychioli. Cadi enillodd ‘Cân i Gymru’ eleni gyda’i chyfansoddiad ei hun, sef y gân ‘Rhydd’. Perthyn i Cadi dalent unigryw iawn ac fe fydd yn enw y clywn lawer amdani’n y dyfodol gan mai 17 oed yn unig yw hi. Diolch iti Cadi am gân mor dda a’n cynrychioli’n y gystadleuaeth arbennig hon.

Roedd prysurdeb mawr ar y bore Gwener gyda taith i Erddi Altamont y tu allan i Garlow ar y gweill. Cawsom ein tywys o gwmpas y gerddi gan y Brif Arddwraig – hynod o ddiddorol. Cawsom ginio blasus – gormod a dweud y gwir! – ar ein ffordd ‘nôl i Garlow. Os fyth y byddwch yn yr ardal, ewch am bryd i’r ‘Fighting Cocks’, mae gwlêdd rhad a da’n eich disgwyl. Roedd rhaidbod yn ôl yng Ngharlow erbyn 2 y pnawn i gael cerdded yn Y Parêd Celtaidd drwy’r strydoedd. Parêd yw sy’n llawn hwyl, miwsig a dawnsio gan gynrychiolwyr o’r holl wledydd Celtaidd. Grêt!

Ar ôl y Parêd, cynhaliwyd y cystadlaethau Dawnsio Gwerin yng Ngwesty’r Saith Derwen. Fel llynedd, enillodd Dawnswyr talog y gystadleuaeth i Grwpiau Dawnsio Gwerin gyda Grŵp Tipyn o Bopeth yn dryddydd. Roedd yn gystadleuaeth glos iawn rhwng Cymru, Cernyw, a Llydaw. Enillodd Dawnswyr Talog Grŵp Gwerin yr Ŵyl. Yn y gystadleuaeth i Ddawnswyr Gwerin Unigol yr enillydd oedd Tudur Philips. Llongyfarchiadau calonnog iawn iti. Braf oedd gweld grŵp o ieuencid o’r Iwerddon yn dawnsio ac yn mwynhau eu hunain. Talent yn wir!

Am 7 yr hwyr, cynhaliwyd Cyngerdd y Corau’n yr eglwys gadeiriol gyda’r chwech côr o Gymru’n canu yno – Côr Cytgan Clwyd, Côr Rhuthun, Côr Blaenporth, Côr Tonic o Gaerfyrddin, Rhiannedd Moelwyn a Chôr yr Heli. Roedd gwrando ar y corau o’r holl wledydd Celtaidd yn yr eglwys gadeiriol yn brofiad gwefreiddiol.

Yna, i ddiweddu’r noson, cynhaliwyd Noson y Cymry yng Ngwesty’r Saith Derwen. Roedd yr holl gystadleuwyr o Gymru – yn unigolion, grwpiau, corau a dawnswyr yn ein diddanu heb y boen o gystadlu. Pinacl y noson oedd Dafydd Iwan yn diweddu’r noson yn ei ffordd unigryw ei hun a phawb ar eu traed yn canu hefo fo ‘Da ni yma o hyd’. Diolch Dafydd.

Dydd Sadwrn yw diwrnod y corau, ac, yn wir, dylem fod yn falch iawn o’n corau o Gymru. Dyma’r canlyniadau :-

Côr Ieuencid rhwng 12 – 19 oed - 1af – Côr Cytgan Clwyd
Côr Cymysg - 1af – Côr Cytgan Clwyd
2il – Côr Rhuthun
Côr Meibion - 1af - Côr Meibion Rhuthun
2il – Hogia Cytgan Clwyd
3ydd – Côr Blaenporth
Côr Clasurol - 1af – Côr Tonic
Côr Merched - 1af – Côr Merched Rhuthun.
2il – Côr yr Heli
Cystadleuaeth Agored i Gorau - 1af - Côr Cytgan Clwyd
2il – Côr yr Heli

Unwaith eto, Côr yr Ŵyl oedd Côr Cytgan Clwyd. Llongyfarchiadau calonnog i chi. Diolch am eich gwaith caled ac i Ann Davies am eich hyfforddi’n ddiflino ac i Morwen Blythin am gyfeilio i chi mor gelfydd. Diolch am fynychu’r Ŵyl.

Yn y cystadlaethau ffidil, daeth Paul Magee yn drydydd yn y gystadleuaeth i unigolion. Da iawn ti. Yn anffodus eleni, nid oedd neb o Gymru’n cystadlu ar y Delyn. Roedd strydoedd Carlow’n llawn miwsig yn ystod y pnawn Sadwrn wrth i’r Gystadleuaeth Bysgio ddigwydd. Grŵp Gwilym, Bethany, Gethin a’u ffrindiau ddaeth i’r brîg. Ar ôl eu clywed, gallaf ddweud eu bod yn llawn haeddu’r wobr.

Wrth i’r Ŵyl dynnu tua’r terfyn yng Ngharlow, hoffem ddiolch i’r Pwyllgor Trefnu Lleol, ac yn enwedig, i Bride de Róiste, am eu gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf yn darparu cymaint o weithgareddau’n y dref, nid yn unig y cystadlaethau. Braf hefyd oedd gweld mwy o ieuenctid o Gymru’n teithio drosodd ac yn llawn fwynhau’r gweithgareddau. Dewch eto!

Felly, hwyl fawr Ceatharlach a helo Letterkenny.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


25.04.17 - Diolchiadau

"Fe gawsom amser bendigedig yn yr Wyl yn Carlow.

Diolch yn fawr i ch`ch dau am eich gwaith yn trefnu`r daith - ardderchog !

Hwyl
Gruff a Nerys"

 

"Gair o ddiolch i bob un ohonoch a fu drosodd yn yr Wyl Ban Geltaidd eleni. Y cefnogwyr pybyr, y cystadleuwyr a’r beirniaid oll.
Roedd yn werth pob munud i fod yno – amser gwych.

Cofion Gorau
Arwel ac Awen"

 

"Gai ar ran Enid a Fi ddiolch i chdi am y trefniadau , wedi mwynhau ein hunain yn fawr
Cofion Dennis"

 

"A diolch i chi, Awen ac Arwel, am eich trefniadau diffwdan. Mwynheais fy hun yn arw iawn.
Cofion,
Dilwyn"


11.04.17 - Gwyl Ban Geltaidd 2017

Mae yr Wyl ar y gorwel – 18fed o Ebrill tan y 23ain o Ebrill..
Yn cystadlu yno eleni. Cor Cytgan, Cor Rhuthun, Cor Tonig, Cor Blaenporth, Rhiannedd Moelwyn a Cor yr Heli.
Dawnsio Gwerin – Tipyn o Bobpeth a Dawnswyr Talog.
Canu gwerin unigol – Ani LLyn, Bethany J Hughes a Gwilym Rhys.
Canu grwp gwerin – Y Brodyr Magee, Grwp Talog a Grwp Bethany.

Yno hefyd fydd Dafydd Iwan a Dewi Pws Morris.

Beirniaid – Dafydd Iwan, Dylan Cernyw, Gwenan Gibbard a Nia Evans.

Edrych ymlaen – bws llawn yn hwylio o Gaergybi – cefnogwyr rhonc a Tegwyn y Tad Celtaidd yn ein mysg.


09.02.17 - Tegwyn Williams

Mae Tegwyn ein Taid Celtaidd wedi derbyn triniaeth llwyddiannus yn Ysbyty Broad Green Lerpwl. Wedi derbyn falf newydd yn ei galon. Bydd yn 85 ar y cyntaf o Ebrill. Rydym yn hyderus y bydd gyda ni yn yr Wyl Ban Celtaidd eleni yn Ceatharlach( Carlow) 18fed oEbrill – 23ain o Ebrill.

Dewch ar y bws y mae Tegwyn wedi ei drefnu ers blynyddoedd yn y Gogledd a minnau yn ei helpu bellach. Mae gennym ychydig o le ar ol. Cysyllter a mi – 01745 590869 neu arwellroberts@tiscali.co.uk


Gwyl Ban Geltaidd 2017

poster

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


 

 



Aduniad yr Wyl Ban Geltaidd

poster

Nos Sadwrn y 18fed o Chwefror 2017.

Gwesty Nantyffin, Llandassilio, Clunderwen, Sir Benfro.

Cysylltwch a’r gwesty am le aros a bwyd – 01437 563423 neu info@nantyffin.co.uk

Adloniant – Tocyn - £5.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

01.12.16 - Taith Gwenan i Batagonia

"Braf iawn oedd cael y cyfle fis Hydref i fynd draw i'r Wladfa unwaith eto. Cefais amser bythgofiadwy yno nôl ym mis Chwefror a Mawrth 2015 ac felly pan gefais wahoddiad i fynd draw yno i feirniadu yn Eisteddfod y Wladfa eleni, yn naturiol, derbyniais heb oedi dim! Mae'r croeso y mae ymwelwyr o Gymru yn ei dderbyn yno yn arbennig iawn a'r brwdfrydedd sydd yno tuag at bopeth Cymraeg a Chymreig yn heintus. Rwyf wedi gwneud ffrindiau erbyn hyn ac roeddwn yn teimlo'n gartrefol braf yno ac yn rhan o'r gymuned yn syth, er mai am gyfnod byr yr oeddwn i draw yno. Mae Urdd Gobaith Cymru yn trefnu taith draw i'r Wladfa bob mis Hydref ers rhai blynyddoedd bellach, a braf oedd cael eu cwmni yn yr Eisteddfod ac ar sawl achlysur arall yn ystod y daith.

Yn Nhrelew yr oedd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal, yn yr hen Neuadd Dewi Sant yn y dref, lle cynhaliwyd rhai o'r Eisteddfodau cynnar ddegawdau yn ôl, ac yn Nhrelew a thref Gaiman y treuliais fy amser. Doedd dim cyfle i deithio i'r Andes tro ma ond roedd criw go dda o bobl yr Andes, pobl Trevelin ac Esquel, wedi dod draw i'r Steddfod, yn ôl eu harfer, felly cefais weld sawl wyneb cyfarwydd a chael cwmni cyfeillion a gyfarfyddais yn ystod fy nhaith draw yno y llynedd. Er i mi ymgyfarwyddo â'r ffaith fod y Gymraeg i'w chlywed ar y stryd mewn tref yn Ne America, unwaith eto y tro yma roedd yn fy synnu a fy swyno'n llwyr ei bod yn bosibl cerdded i mewn i gaffi ar ochr arall y byd ac archebu yn Gymraeg ac yna sgwrsio efo hwn a'r llall yn Gymraeg, a hynny'n gwbl naturiol. Mae cymuned GYmraeg fyw iawn yn Nyffryn Camwy a'r ysgolion Cymraeg yn Gaiman a Threlew, fel Ysgol Gymraeg y Cwm yn Nhrevelin, yn ffynnu. Cefais rannu llwyfan â phlant Ysgol Gymraeg y Gaiman mewn cyngerdd yng Nghapel Bethel yn y dref a hyfryd oedd eu clywed yn canu rhai o'r hen hwiangerddi Cymreig a chaneuon Cwm Rhyd y Rhosyn, a chael gwrando hefyd ar nifer o'r disgyblion yn chwarae'r delyn.

Wedi ychydig o ddyddiau o grwydro ac ymweld, daeth amser y Steddfod. Cawsom wledd o ddau ddiwrnod o ganu, llefaru, dawnsio a hynny yn y Gymraeg a'r Sbaeneg. Difyr dros ben oedd clywed y caneuon gwerin Archentaidd ochr yn ochr â'r caneuon Cymraeg ac roedd safon y cystadlu yn uchel tu hwnt. Hawdd iawn fyddai meddwl mai yng Nghymru yr oedden ni, wrth i ni wrando ar emynau, ar ganeuon cyfansoddwyr Cymreig fel Robat Arwyn ac Eric Jones ac ar gantorion o Gymru a'r Wladfa yn canu cerdd dant. Ond yna, roedd y dawnsio Tango a'r gerddoriaeth Archentaidd ar y charrangos yn fy atgoffa yn syth ein bod yn bell iawn o Gymru! Emosiynol iawn oedd gwrando ar y gystadleuaeth Côr Teulu, a'r llwyfan yn cael ei lenwi efo bron i 50 o gantorion o'r un teulu yn canu 'Côr Caersalem' - o'r plant ifanca un i aelodau hyna'r teulu, ac roedd babi ym mreichiau ei fam hefyd yn rhan o'r côr! Roedd yn brofiad arbennig gweld y traddodiadau Cymreig yn cael eu cynnal mor ardderchog.

Cyfrannodd y criw a deithiodd o Gymru efo'r Urdd yn helaeth iawn i'r Eisteddfod, a sawl un ohonynt wedi serennu yn yr Wyl Ban Geltaidd ar hyd y blynyddoedd. Bu Cadi Mars Jones, fu'n cystadlu yn Carlow llynedd fel unawdydd ac fel aelod o grwp gwerin, yn llwyddiannus, gan ennill y wobr gyntaf am y ddeuawd efo Dafydd Jones (a fu'n cystadlu yn yr Wyl Ban Geltaidd llynedd efo Côr Cytgan Clwyd, Côr buddugol yr Wyl). Cafodd Cadi a Dafydd hefyd lwyddiannau yn y cystadlaethau canu unigol. Yn amlwg fel cyfeilydd ar y piano a'r delyn yn amryw o'r cystadlaethau yr oedd Elain Rhys Jones, a fu'n cystadlu yn yr Wyl Ban Geltaidd fwy nac unwaith fel aelod o Aelwyd yr Ynys. Un arall a fu'n cystadlu yn Iwerddon ac a gafodd lwyddiant yn Eisteddfod y Wladfa oedd Rhys Meilyr. Mae sawl un o aelodau'r Urdd wedi gwneud eu marc yn yr Wyl Ban Geltaidd ac yn Esiteddfod y Wladfa, fel ei gilydd, ac roedd enwau rhai fel Steffan Rhys Hughes a Rhydian Jenkins yn dal ar wefusau pobl y Wladfa a nifer yn cofio eu perfformiadau yn Eisteddfodau'r blynyddoedd diwethaf. Gwnaeth criw yr Urdd, unwaith eto leni, argraff fawr ar bobl cymunedau'r Wladfa, gan wneud ffrindiau hefyd â rhai o bobl ifanc Dyffryn Camwy a'r Andes. Braf iawn yw gweld y cyswllt rhwng y ddwy wlad yn parhau ac yn mynd o nerth i nerth."


07.10.16 - Lluniau

Conn O’connell Dyma Conn O’connell – sylfaenydd yr Wyl Ban Geltaidd yn Iwerddon yn siarad am ei brofiadau yn trefnu yr Wyl ers deugain ac un o flynyddoedd.
Ioan Roberts Ioan Roberts y newyddiadurwr mewn sgwrs ddifyr gyda Tom Williams Chwitffordd Sir y Fflint.
Ioan a Conn Ioan a Conn yn hel atgofion.
Conn Conn ynghanol ei gyd- geltiaid.
Ieuan ap Sion Ieuan ap Sion wrthi yn ddyfal yn diddori y gynulleidfa.
Conn Conn wedi iddo dderbyn llun gwreiddiol Tudur Mars Jones fel gwethfawrogiad o’i wasanaeth i’r Wyl. Yn y llun gydag ef mae yr hen batriach Tegwyn Williams un arall o selogion yr wyl ers deugain mlynedd. Arwel trefnydd y noson yn mwynhau y cyfeillgarwch.
Conn

07.10.16 - Bryn Eisteddfod - Hydref y 1af

Neges gan Arwel ac Awen

Annwyl bawb,
Hoffwn ddiolch i bawb ddaru gefnogi y noson yng Nghlynnog Fawr.
Noson i’w chofio – edrych ymlaen i weld y lluniau gan Lynn a John Geraint.
Yn sicr roedd Conn wedi ei blesio.
Diolch i Tegwyn, Marged am y cymorth gyda’r trefniadau ac i Dylan ac Ieuan ap Sion am yr adlonaint. Diolch i Hefin ac Ioan am siarad mor dda ar y noson.
I berchenogion Bryn Eisteddfod a’r staff am y bwyd blasus a’r croeso twymgalon.
Diolch unwaith eto i Conn am yr holl waith dros y blynyddoedd ynghlwm a’r Wyl Ban Geltaidd.
Cofion lu,
Arwel ac Awen

 

Neges gan Mei, Bryn Eisteddfod

Gyfeillion!
Ar ran Bryn Eisteddfod hoffwn ddiolch o galon i chi am fod yn griw mor hwyliog a di-drafferth acw nos Sadwrn.
Roedd Karen a finnau'n gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn arw ac wedi mwynhau eich cwmni yn arw. Diolch yn fawr ac yn enwedig i Arwel am ei waith cydlynu.
Pob lwc i'r Wyl gyda'r bennod nesaf.
Hwyl am y tro!
Mei


28.09.16 - Taith i Carlow, Iwerddon, Ebrill 18fed - 23ain 2017 - Taith Y De
Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.

poster

Byddwn yn ail-ymweld â Charlow . Byddwn yn teithio ar long 2.30 o'r gloch y bore dydd Mawrth Ebrill y 18fed, ac yn aros pum noson, gwely a brecwast. Mae'r bws yn gyfforddus gyda cyfleusterau toiled arno. Mae'r mannau lletya’n weddol agos at ei gilydd yn y dref, â’r holl ddigwyddiadau o fewn ein cyrraedd yn “Seven Oaks”.

Prisiau a Manylion y trip o Dde Cymru - cliciwch yma

 

 

 



Gŵyl Ban Geltaidd 2017

leaflet

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr Ŵyl Ban Geltaidd 2017

 




 

 



12.07.16 - Taith i Carlow, Iwerddon, Ebrill 18fed - 23ain 2017 - Taith Y Gogledd
Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.

poster

Byddwn yn ail-ymweld â Charlow . Byddwn yn teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill y 18fed ac yn aros pum noson, gwely a brecwast a yng Ngwesty'r Seven Oaks ; Llety Gwely a Brecwast, Y Red Setter a’r Tý Tafarn y Racey Byrne. Mae'r bws yn gyfforddus gyda cyfleusterau toiled arno. Mae'r mannau lletya’n weddol agos at ei gilydd yn y dref, â’r holl ddigwyddiadau o fewn ein cyrraedd yn “Seven Oaks”.

Prisiau a Manylion y trip o Ogledd Cymru - cliciwch yma

 

 

 



Gŵyl Ban Geltaidd 2017

leaflet

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am yr Ŵyl Ban Geltaidd 2017

 

 

 

 



Canlyniadau yr Wyl Ban Geltaidd 2016 - Cymru yn fuddugol

Dyma y rhai a fu yn fuddugol yn yr Wyl Ban Geltaidd yng Caetharlach – Carlow eleni. Hoffwn ddiolch fel Cadeirydd Pwyllgor Cymru o’r Wyl Ban Geltaidd i’r holl gorau y grwpiau a’r unigolion a gymerodd y rhan, y beirniaid a’r cefnogwyr hefyd.
Gwyl lwyddiannus iawn.

Arwel Roberts

Canlyniadau a llwyddiannau draw yng Ngharlow yn yr Wyl Ban Geltaidd 2016,

Cyntaf yn y gân rhyngwladol – Cymru – llongyfarchiadau i’r grẁp Cordia.
Côr Gwledig Cymysg – Cyntaf – Aelwyd yr ynys Môn.
Côr Cymysg – Ail – Côr Dre Caernarfon.
Canu Traddodiadoll – Cyntaf – Côr Dre Caernarfon.
Côr Merched – Cyntaf – Côr Cytgan
Côr Bechgyn – Cyntaf – Côr Cytgan
Cystadleuaeth agored – Cyntaf - Côr Cytgan, Ail – Lleisiau Migneidd
Côr yr Ẁyl – Côr Cytgan – Dyffryn Clwyd.

Canu grẁp gwerin traddiadol – 1af Bois y Fro.
Canu gwerin i unigolion – Ail – Rhydian Jenkins

Cystadleuaeth canu y Delyn – cyntaf - Math Roberts, trydydd – Ceri Jones.
Cystadleuaeth chwarae’r ffidil – ail – Elsa Davies.
Deuawd ar y ffidil a thelyn – Elsa Davies a Ceri Jones.

Cystadleuathau dawnsio gwerin

Cystadleuaeth dawns newydd – Cyntaf – Dawnswyr Talog – dyfeisydd y ddawns Mrs Eirlys Phillips. Enw’r ddawns Beca. Trydydd Dawnswyr Glancleddau – enw’r ddawns – Lymphey.

Cystadleuaeth dawns agored – Cyntaf – Dawnswyr Talog yn gydradd gyda Dawnswyr Bro Pleneur ( Llydaw) Ail – Dawnswyr Glancleddau.

Cystadleuaeth i ddawnswyr unigol – Cyntaf – Gethin Page – Dawnswyr Talog . Ail – Mared Evans – Dawnswyr Talog

Cliciwch yma i weld y lluniau a'r fideos


Trefn Cystadlaethau Corawl

Cliciwch yma i weld trefn y Cystadlaethau Corawl


Rhaglen Gŵyl Ban Geltaidd 2016

Golwg ar ddigwyddiadau yr Ẁyl Ban Geltaidd - cliciwch yma


Fy Milltir Sgwar (Welsh only available)

erthygl erthygl

Trefniadau y bysiau am yr Iwerddon (2016)

Cychwyn Dydd Llun y 29ain o Fawrth.

Dau fws yn teithio i Lanelwy erbyn 6 y bore.

Llanelwy

Bws 1 – Arni yn barod Nan Williams, Dennis ac Enid Davies.

Y teithwyr yma yn mynd arni :-

Tegwyn a Marged, John a Lyn, Ieuan ap Sion, Lara a Barbara, Phil a Robart, Heulwen Caldicott, Hedd a Marian Bleddyn, Ron ac Ann Griffiths, Cadi a Lisa

Nifer – 19

Llanelwy

Bws 2 –

Arwel ac Awen

Graham ac Elizabeth Floyd, Reg ac Ann Mortimer, Adleis Williams a Margaret Harding,
Dafydd a Teifryn Williams, Gwyn a Sylvia Williams, Berwyn ac Olwen Roberts, Donna Jones, Ieu Rhos a Carey, Twm Williams, Bara Tobin, Tom Noon, John ac Alwena Price, Edward a Mair Jones – nifer 24

Gwaelod LLanelwy – Bws 2 yn unig - 6:10 a.m – Dewi Jones

Stop Abergele - 6 :25 a.m

Bws 2 yn unig – Dennis a Chris, Richard Waters, Nesta a Beverley – yn y bws bellach – 30.

Stop Cyffordd Llandudno – Bws 1 yn unig – 6:45 a.m

Beryl a Gordon, Arthur a Nan, Joyce a Bryan, Dylan. – yn y bws bellach - 26 .

Llys y Gwynt – y ddau fws i gyrraedd erbyn 7:10 a.m

Bws 1 – Edwina Morris, Bet a Robin, Edith a Clwyd, Marian a Sian Owen. – Nifer bellach – 33

Bws 2 – Dilwyn Hughes, Buddug Evans ac Alwena Howells – Nifer bellach – 33.

Gaerwen – y ddau fws i gyrraedd erbyn 7:30.

Bws 1 – Allan a Norma, Jean, Beryl, Gwenan a Mair - 39

Bws 2 – Hefin, Tudur Prichard – 35

Tafarn y Rhos – y ddau fws i gyrraedd erbyn 7:45

Bws 1 – Margaret a Mary – 41

Bws 2 – Richard Jones – 36

Caergybi – Bws 1 yn codi – Dwynwen, Mair, Enid ac Ann - 45. Y ddau fws yn cyrraedd erbyn 8 y bore.

16.10.15 - Taith i Carlow, Iwerddon, Mawrth 29ain -3yd Ebrill 2016
Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.


poster

Byddwn yn ail- ymweld â Charlow. Byddwn yn teithio ar long bore dydd Mawrth 29ain Mawrth ac yn aros pum noson, gwely a brecwast yng Ngwestai'r Seven Oaks, neu Green Lane House llety G+B . Mae'r bws yn gyfforddus gyda chyfleustra toiled. Mae'r llefydd yn agos at eu gilydd i’r dre, a rhan fwyaf o ddigwyddiadau yn Y Seven Oaks.

Prisiau a Manylion y trip o Dde Cymru - cliciwch yma

Prisiau a Manylion y trip o Ogledd Cymru - cliciwch yma

 

 



16.10.15 - Cyngerdd Nos Wener 6ed o Dachwedd

poster


Artisiaid

GWENAN GIBBARD
BRODYR MAGEEE
CÔR CYSWLLT
CAMERON WILLIAMS

NEUADD YSGOL DEWI SANT Y RHYL - Dewch yn llu.

Tocynnau £6. - Elw i Cylch Meithrin Rhuddlan.

Unrhyw ddiddordeb cysyllter â Arwel 01745 590869.
neu Sylvia 01745 590828 - Tocynnau ar gael gan y bobl a enwir.


23.06.15 Banna Píob Cheatharlach


22.06.15 Pan Celtic Charter

 

Pan Celtic CEO, Con Ó Conaill presents Ceatharlach with the Pan Celtic Charter in Áras an Chontae (Carlos County Buildings)

 

Festival Chair, Bríde de Róiste, and Pan Celtic CEO, Con Ó Conaill sign the contracts for the 2016 & 2017 festivals to be held in Carlow.

 

 

 


18.06.15 News from Caetharlach


Reading the small print!

The 2016 Pan Celtic Festival was officially launched last evening June 17th. , at a reception in Carlow County Council offices, hosted by the Council.

The Pan Celtic Charter was presented by Con ÓConaill, jointly to the County Council Chairman and the Carlow Mayor.

Bríde De Róiste Festival Chairman outlined details of the festival programme. The Council promised their full support to the festival committee for the two years.
The Pan Celtic updated website was also launched at the event.

Bríde was presented with a framed Cerificate , to recognise having been recently awardet the 'Gradam an Phiarsaigh' , the National Pearse Award for the promotion of Irish language and Culture, Bríde had been nominated by the Irish Pan Celtic Committee.

There was a large attendance at the evenings event, representing all sections and organizations in Carlow, Members of the Irish Pan Celtic National Committee, were also present, and entertainment was provided by the Carlow Pipe Band.

 

 


02.06.15 Llwyddiant yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd

LLwyddiant i un o selogion yr Wyl.
Llongyfarchiadau mawr i Steffan Rhys Hughes. Unigolyn yr Eisteddfod yng Nghaerffili.


26.05.15 STATWS GWARCHODEDIG I'R HEN GAPEL CYMRAEG

Yn dilyn ymgyrch gan Ddraig Werdd mae’r hen gapel Cymraeg Bethel ar Talbot Street wedi derbyn statws gwarchodedig gan Gyngor Dinas Dulyn.

Un o’r adeiladau hynaf ar Stryd Talbot, mae’r adeilad o ddiddordeb hanesyddol gan ei fod yn man addoli ar gyfer y gymuned Gymreig yn Nulyn ac ar gyfer ymwelwyr a morwyr Cymreig ers dros 100 mlynedd. Dyma’r unig dystiolaeth ar ôl yn Nulyn o’r cysylltiadau rhwng Dulyn a Chymru yn ystod y cyfnod hwn, ag mae’r ffurf allanol yr adeilad yn hollol adnabyddadwy fel capel Cymraeg o’r cyfnod Fictoraidd cynnar.

Mae aelodau Draig Werdd wedi gweithio’n ddiflino i gofnodi hanes capel Bethel a’i arwyddocâd i Gymru ac i Iwerddon. Cafodd yr ymgyrch ei chefnogi gan An Taisce, Astudiaethau Celtaidd UCD, Côr Meibion Cymry Dulyn, Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, Jill Evans ASE Llywydd Plaid Cymru, Cadw, yr Henaduriaeth Môn, Capel Hyfrydle Caergybi a Chyngor Tref Caergybi a phob TD o fewn Ddylun.

Gellir cael manylion pellach am y Capel trwy fynd i wefan Draig Werdd - cliciwch yma

Cliciwch ar y dolenau isod i ddarllen rhagor o eitemau newyddion am benderfyniad y cyngor:

Wales Online - cliciwch yma

Daily Post - cliciwch yma

 


20.05.15 Gẁyl 2015

 Roedd y croeso yn dwymgalon yn ninas Derry eto eleni. Daeth amryw o Gymry benbaladr i fwynhau yr Ẁyl ac i gystadlu.

 

Fel llywydd yr Ẁyl eleni braf oedd cydweithio gyda’r beirniaid sef Dylan Cernyw, Gwenan Gibbard, Les Morris ac Ieuan ap Sion, y cystadleuwyr oll gweler isod ac wrth gwrs fy nhyd- drefnyddion, Tegwyn Williams, Lyn Jones, Y Parch Emyr Wyn Thomas a’i wraig Catrin ac wrth gwrs fy ngwraig innau sef Awen.

Cafwyd llawer i wibdaith cofiadwy dan gyfarwyddyd Lyn a’r gyrrwr hynhaws Meurig o Llanddoged – yr un sydd yn sefyll yn fy nghof i oedd y daith i’r Pentre Newyn yn Donegal.

cor

Dyma’r llwyddiannau eleni:

Côr yr Ẁyl – Côr Dre dan arweinyddiaeth Sian Wheway

Côr Meibion – Côr Colwyn dan arweinyddiaeth Tudur Eames

Côr Cymysg Gwledig– Côr Aelwyd yr Ynys dan arweinyddiaeth Nia Wyn Efans

Côr Merched – Côr Dre
Côr Cymysg – Côr Dre
Cystadleuaeth Agored – Côr Colwyn.
Canu Gwerin i unigolion – 3ydd – Steffan Hughes
Canu Gwerin i grẁpiau – cydradd drydydd - Pedwarawd y Ddinas a’r grẁp Munud Olaf.

Cystadleuaethau Dawns

Dawns tapio unigol – Lois Glain Postle – 1af ( Aelwyd yr Ynys)
Dawns tapio i grẁp – 1af – Aelwyd yr Ynys.

Cystadleuaethau Telyn
Cystadleuaeth Agored – 1af – Math Roberts. 3ydd – Ifan Prys.

Cystadleuaethau Ffidil
Adran A – i ffidlwyr oed 16 I 18 oed – 1af – Paul Magee 3ydd – James Magee.

Diolch i bawb ddaru gystadlu yn cynnwys y gantores o Fôn sef  Elin Angharad a’I grẁp a ganodd y gân fuddugol yn y gystadleuaeth Cân I Gymru eleni. Roedd yn 4ydd ac yn haeddu bod yn agosach i’r brig.

Cliciwch yma i weld y lluniau

Arwel


11.04.15 Y Derry Journal

"Derry’s Pan Celtic Festival came to a colourful climax as the various countries taking part staged a Parade of Nations through the city centre this weekend"

Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl ac i weld y lluniau a'r fideo.


Noswaith Dda, Oicha mhaith, Noz Vat,
Nos da, Factyr mie, Fesgur mah.
Helo Dia Duit.

Pleser mawr yw bod yma heno fel Llywydd yr Ẁyl. It is a pleasure to be here tonight as the President of the Pan Celtic Festival 2015. Here in Derry – the fourth largest city on the island of Ireland. We all know that the name Derry is an anglicisation of the Irish name Derry – meaning oak grove. Wrth gwrs y gair Cymraeg am oaks yw deri hefyd. The same word occurs in Wales – oaks mean Deri.

The oak is a strong tree and a hive of activity, To me this city has the same characteristics – strong people who have seen good and difficult times, hive of activities especially here in the Curtulann – personally I am much happier being here than the Guild hall. Derry the walled city – y ddinas gaerog a’r bont heddwch ger llaw and the peace bridge near by.

Diolch pobl Derry – gura mi ugat the people of Derry and the committee who have invited us fellow Celts to your remarkable city.

Your city has been an anchor to the Pan Celtic Festival during 2014 and surely this year the same. Though not a permanent anchor to the Pan Celtic Festival and its activities but a temporary anchor to the Bretons – Llydawyr, Scotsmen – Albanwyr, Manx – Manaw, Cornwall – Cernyw and the Welsh – Y Cymry. They have landed on the banks of the Foyle to enjoy the Craic – yr hwyl. We have tasted the welcome- rydym wedi blasu y croeso a’r hwyl yma. The coal- tas = this coming together is good for us here in Derry and the Emerald Isle – the inish yr ynys will always be the permanent anchor to the Festival.

For all its fault Ireland deserves to be free, so do the other Celtic nations and Scotland is showing the way. Whenever I set my feet in Dun Laughaire or Dublin Port I always thank the lord that I am in a free country.

Within Ireland you have an anchorman as leader – dyn yr angor, Con O’Connell is and always will be the man we associate with the Pan Celtic Festival. Mae eich cyfraniad wedi bod yn enfawr Conn. Thank you Conn your contribution has been tremendous. Others in Ireland are part of the team but you are the anchorman.
In Derry we have Donncha – Ble mae o? Where is he? He is so cool. Under pressure he doesn’t panic – a true Irishman – a Celt to the core – a Derryman, Diolch yn fawr – my wife and I will always regard you as a good friend – ffrind da.

Yng Nghymru, In Wales we have Tegwyn, the Celtic father – Y TAD CELTAIDD or should I have said the Celtic Grandfather – Y TAID CELTAIDD. He can be as obstinate as a camel, but he is also a store of informations. Ffrind da iawn – a great friend – Cymro twymgalon – a wholehearted Welshman. Rydym fel Cymry yn ddiolchgar iawn iti. We are very grateful to you Tegs and all the others who have supported the Pan Celtic over the years. Mae calonnau amryw yma gyda ni heno. The hearts of many are with us tonight, but their situation doesn’t allow them to be here. Norman and Beti Closs Parry plus family, Jean Williams, Marion Owen, Bobby and Dafydd and their dancing group “ Tipyn o Bopeth”- obstacles which couldn’t be conquered . Next year in Caelathalach – Carlow they will be with us hopefully.
Mae y blynyddoedd 2014 a 2015 wedi bod yn flynyddoedd o golledion I ni yng Nghymru. These last two years have been years of great losses in Wales, Gerallt Lloyd Owen, John Davies, John Rowlands, Harri Prichard Jones to name only four. But  the one who had connections with Pan Celtic Festival was Dr Meredydd Evans. Hundreds of people came to his funeral in the village of Cwm Ystwyth, Ceredigion where he lived since 1970. 95 years old – a performer, a language campaigner, an academic, a broadcaster and an expert in the field of Canu Gwerin ( Folk Music). Merêd was an important figure in Wales and also in the Celtic world – he and his wife Phylis met Con in Kilarney in 1970 and was there in 1971 the year that the Pan Celtic was born.

There are people who can be called Giants and Merêd was one of them. He was a friend who could reach out towards anyone from whatever background.

A very special man, we will not see his like again, and he was there when Conn dream came to fruition.  CAWR – GIANT and a great loss.

But we shall not rest on our laurels, we shall carry on to enhance and promote our languages, cultures, music – modern and traditional and sports of our nations.

In the words of Dafydd Iwan – rydym yma o hyd er gwaetha pawb a phobpeth. We are still here despite everybody and everything.

Slᾀn- a gara mi ugat. Enjoy – mwynhewch.


Can i Gymru 2015

Llongyfarchiadau i Elin Angharad - bob lwc yn Derry!

 

Cliciwch yma am fwy o luniau

 

 

 


24 Mawrth 2015

Annwyl Gyfeillion.

Mae y dyddiau yn nesau – dyma ychydig o wybodaeth i chi. Bydd y bws yn disgwyl amdanom yn maes parcio y gadeirlan Llanelwy am 6 y bore y 7fed o Ebrill.
Byddwn yn cyrraedd Dulyn tua 1 y pnawn ac mi fyddwn yn stopio yn Monghanan am hanner awr ar y ffordd i Derry. Anelu i gyrraedd y ddinas tua 6 yr hwyr. Bydd na ginio yn barod amdanoch yno os ydych wedi archebu un, ac wrth gwrs mi fedr rhai sydd ddim archebu byrfwyd yno hefyd. Mae y noson agoriadol yn dechrau am 8 y nos ac yn cael ei gynnal yn yr hen gapel ger canolfan Curtelann, Great James Street.
Dydw i heb dderbyn y rhaglen swyddogol eto. Felly efallai y bydd yr amseroedd ar y nosweithiau isod yn cael ei newid.
Nos Fercher – eto yn yr hen gapel – cystadleuthau gwerin – unigolion a parti – amser dechrau – 7 yr hwyr.
Nos Iau – cystadlaeth can y gwledydd – yn yr hen gapel – amser dechrau – 7 yr hwyr.
Nos wener – cyngerdd swyddogol yn yr eglwys cenedlaethol Iwerddon ( lleoliad ar ddiwedd uchaf Great James Street) amser dechrau – 8 yr hwyr. Noson y Cymry yn yr Hen Gapel 9 yr hwyr ymlaen.
Dydd Sadwrn – yr orymdaith drwy’r ddinas – amser dechrau – 1 p.m – dewch a digon o faneri Cymru gyda chi ac yn y blaen.
Cystadlaethau yn ystod y dydd – rhai yn y Curtelann ac yn yr Hen Gapel – telyn,dawns, ffidil – corau yn y nos yn yr hen gapel. 9 o’r gloch – noson yr Albanwyr.

Mae tua 63 o bobl bws y Gogledd. Tua 20 ar fws y De. Corau fydd yn teithio draw yn ystod yr wythnos – Cor yr Aelwyd yr Ynys, Cor Dre, Cor Meibion Colwyn. Unigolion hefyd. Dydd mercher a cefnogwyr y ferch( Elin Angharad) sydd wedi ennill Can i Gymru yn teithio drosodd – bws yn dal tua ?.
Rhai o Bala yn dod yn hwyr.

Mae’n ddrwg gen i fod mor gymysglyd ynghylch y trefniadau yn Derry – ond fel y dywedais rwyf yn dal i ddisgwyl y rhaglen swyddogol.

Pob Bendith,
Arwel


Aduniad

telynwyrFe gafwyd noson arbennig yng ngwesty yr Abbeyfield Talybont Bangor ar y 21ain o Chwefror – nos Sadwrn. Diolch i’r criw a ddaeth i’r aduniad. Ieuan ap Sion, Gwennan Gibbard a Dylan Cernyw yn ein diddanu.

Cliciwch yma i weld mwy o luniau

 

 

Telyn i'r Wladfa

Tybed a ydych wedi derbyn yr apel gan Dafydd Wigley - cliciwch yma. Mae’n siwr eich bod y rhai sydd yn chwarae y Delyn beth bynnag.

Rhag ofn fod gennych awydd i gefnogi yr apel, buddiol oedd anfon hwn atoch. Wedi siarad gyda’r Tad Celtaidd – rydym am ysgrifennu siec fechan dros Pwyllgor Gwyl Ban Geltaidd Cymru. Os na fedrwn ni gefnogi ein pobl yn y wladfa i gadw y traddodiad o chwarae y delyn, pwy arall wnaiff? Mae Awen a minnau am wneud yr un modd.
Llawer o gofion
Arwel


Gwyl Ban Geltaidd 2015. Cyfarwyddiadau i gystadleuwyr


Rheolau - cliciwch yma

Ffurflenni Cystadlu - cliciwch yma

Gobeithio y dewch draw i Derry – gwylbangeltaidd.


 

Taith i Doire, Gogledd Iwerddon, Ebrill 7fed -12fed 2015
Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.

Byddwn yn ymweld â DOIRE am yr ail dro. Byddwn yn teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill y 7fed ac yn aros pum noson, gwely a brecwast a chinio yng Ngwesty'r City ; Llety Gwely a Brecwast, The Saddler’s House / The Merchant House neu’n Hostel Paddy’s Palace. Mae'r bws yn gyfforddus gyda cyfleusterau toiled arno. Mae'r mannau lletya’n weddol agos at ei gilydd yn y dref, â’r holl ddigwyddiadau o fewn ein cyrraedd yn “Y Guildhall”.

Costau y Daith ( prisiau yn amodol, fe allant newid)
Gwesty'r City
Gwely a Brecwast a chinio nos am 6 p.m
Dau yn rhannu, y person - £440
Sengl - £565

Gwely a brecwast dau yn rhannu y person- £365
Sengl - £488

Llety Gwely a Brecwast
The Saddler’s House

Dau yn rhannu, y person - £344

The Merchant House
Dau yn rhannu, y person - £358
Sengl - £390

Paddy’s Palace, Hostel
Brecwast Ysgafn
Rhannu - £240

Mae’r costau uchod yn cynnwys:
• Teithio ar y bws a’r llong o Gymru i Doire
• Pum noson gwely a brecwast yn y City sydd ger “ Y Guild Hall”
• Tocyn wythnos i holl weithgareddau’r Ŵyl
• Cil dwrn i’r gyrrwr

Manylion y daith
Gadael Llanelwy, Sir Ddinbych gyda bws am 6 :00a.m. bore Mawrth, 7fed o Ebrill (trefnir y mannau codi eto). Ymlaen i Gaergybi ar long 8:55 y bore. i Ddulyn gyda’r bws yn dod gyda ni. Cyrraedd Dulyn tua 1 y pnawn ac ymlaen i Doire gan gyrraedd erbyn 6:00 y pnawn. Aros 5 noson. Bydd cyfle i deithio o amgylch ar ddydd Mercher, Iau a Gwener, os dymunir. Mae tocyn wythnos i fwynhau’r Wyl. Mae y rhan fwyaf o’r digwyddiadau yr Ŵyl yn “Y Guildhall”.

Cychwyn yn ôl am 9 bore dydd Sul 12 o Ebrill, a’r llong yn hwylio am 3:10 y pnawn. Cyrraedd Gaergybi tua 6:30 p.m ac ymlaen i Lanelwy.

Ernes: £50 a’r gweddill erbyn diwedd Chwefror.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Tegwyn Williams, Penbedw, Ffordd y Bryn, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0DD. Ffôn: 01745 583612 neu Arwel Roberts, Fachwen, Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP. Ffôn 01745 590869


Am wybodaeth a chefndir yr Ŵyl, ewch i www.gwylbangeltaidd.com

O.N – nodwch os oes gennych gyflwr meddygol fyddai yn effeithio ar leoliad yr ystafell.

Aduniad yr Wyl Ban Geltaidd yng Ngwesty yr Abbeyfield, Talybont ger Bangor. Nos Sadwrn yr 21ain o Chwefror 2015. Mynediad am ddim – amser cychwyn 7p.m. Os am aros noson cysyllter a’r gwesty 01248 352219, Dewch draw!!

Cliciwch yma i lawrlwytho y gwybodaeth uchod


TAITH CYMRU I'R ŴYL BAN GELTAIDD
YN DOIRE (DERRY)(IWERDDON) DROS Y PASG


Yn gynnar y bore ar yr 22ain o Ebrill, teithiodd cynrychiolwyr o Gymru, i Iwerddon.Go gysglyd oeddem ar yr awr blygeiniol hynny o'r bore, ond buan y deffroesom i olygfaoedd gwych yr Ynys Werdd ar ôl paned.

Roedd y trefniadau llety yn arbennig fel arfer, pawb yn aros yn agos i fangre'r Ŵyl yn Derry, mewn gwesty, llety G&B neu hostel. Roedd mangreoedd yr Ŵyl ei hun – Neuadd y Dre, Neuadd St Columb, ac eglwys leol yn weddus iawn ac o safon uchel, priodol i'r Ŵyl ban Geltaidd. Dyma gyfle unigryw blynyddol i holl Geltiaid – o Gymru, Yr Alban, Iwerddon, Ynys Manaw, Cernyw a Llydaw, i ddod at ei gilydd i gymdeithasu a chystadlu yn Iwerddon, eleni am y tro cyntaf yn ninas Derry.

Cafwyd seremoni agoriadol ar y Nos Fawrth gyntaf yn Neuadd y Ddinas, gyda chynrychiolwyr y gwledydd yn diddanu ym mhresenoldeb pwysigion Derry, a chanwyd yr Anthem Geltaidd.

Ar Nos Fercher, cynhaliwyd y cystadleuthau canu unigol a grŵp, gyda Esyllt Tudur o Lanrwst yn dod yn ail yn y gystadleuaeth unawd werin. Daeth 'Munud olaf ' – Catrin Thomas Hermon, Dylan Cernyw, Bae Colwyn, Gwenan Gibbard Pwllheli, Efan Williams Tregaron ac Esyllt Tudur Llanrwst yn gyntaf yn y grŵp gwerin, gyda 'Pedwarawd y Ddinas' – Steffan, Llyr, Mared a Gwenith yn drydydd .

Yn ystod y dydd, aethpwyd am wibdeithiau yn y bws i amgueddfa werin Ulster, Dyffryn Antrim, a Bedd y Cawr, gyda Lyn o'r Bala yn cynorthwyo. Defnyddiwyd un o'r bysiau fel gwasanaeth gwennol yn lleol. Bu'r grŵp dawnsio o Gymru – 'Tipyn o bopeth' yn ystod y dyddiau, ac yn yr orymdaith (ddydd Gwener) yn perfformio o gwmpas y dre a'r ardal, a braf yw eu cael yn reolaidd yn llysgenhadon da dros Gymru. Eleni, nid oeddynt yn cystadlu, gan bod Dafydd un o'u harweinwyr yn beirniadu. Dymunwn lwyr wellhad i Bobbie un arall o'r arweinwyr oedd gyda'r grŵp yn Derry eleni

Nos Iau, cynhaliwyd y gystadleuaeth Cȃn Geltaidd, pryd cyflwynai pob gwlad Geltaidd y gȃn orau o'u gwlad eu hun. Roedd awyrgylch gwerinol yn yr holl ganeuon. Ynys Manaw oedd yn fuddugol, gyda'r Cymry yn bedwaredd i gyfeiliant grŵp y Moniars o Sir Fȏn.

Nos Wener, yn dilyn yr orymdaith ban Geltaidd trwy'r ddinas, cafwyd cyngerdd o safon i'w chofio gan gȏrau'r Ŵyl yn yr Eglwys leol. Yn dilyn hyn cynhaliodd y Cymry Noson Lawen o adloniant amrywiol yn Neuadd y Ddinas, gyda Ieuan ap Sion o Rhes y cae yn arwain. Cafwyd noson wych, gyda'r Moniars yn gorffen y noson a phawb yn mwynhau dawnsio ar y diwedd.

Dydd Sadwrn cynhaliwyd cystadleuthau eraill,-
Daeth Imogen Evans yn gyntaf ar y ffidl; Gareth Rhun yn gyntaf ar y stepio unigol.
Enillodd Corau Glanaethwy sawl gwobr gyntaf; daeth Côr Aethwy – rhieni a ffrindiau Côr Glanaethwy y cȏr cymysg, ac enillodd Côr bechgyn Glanaethwy Côr Gorau'r Wyl. Enillodd Côr Penrhos (Sir Fôn) y cyntaf yn y Côr Meibion.

Bu'r Grŵp 'Y Cledrau' o'r Bala yn brysur yn ystod yr wythnos hefyd.
Bu'n wythnos fythgofiadwy, a thrist oedd troi nôl am Gymru yn ein bysiau Ddydd Sul. Beth am i chi ddod y flwyddyn nesaf i'r Ŵyl ban Geltaidd yn Derry Cofiwch y dyddiadau Mawrth y Pasg tan y Sul canlynol. Cewch y manylion a'r cysylltiadau ar safwe Gŵyl ban Geltaidd Cymru


Tlws i gofio Robin James Jones
3 PERSON

 

Tegwyn Williams ac Arwel Roberts yn cyflwyno tlws arbennig i Con O’Connell sylfaenydd yr Wyl Ban Geltaidd.

Y tlws i gofio Robin James Jones, cefnogwr a telynwr crefftus – hwn fydd enillydd y gystadleuaeth telyn yn ennill bob blwyddyn.

 

 

 

 


poster cyngerdd sian

 

Cyngerdd Sian

18.05.14

Cliciwch ar y poster am fwy o wybodaeth

 

 

 


Derry

https://www.youtube.com/watch?v=6b-B0Jbb8aY

I recently made and uploaded this video to youtube ....


Lluniau o'r Wyl 2014 - cliciwch yma


Neges gan Mair a Peter

Annwyl Arwel ag Awen a phawb a fu'n gweithio mor galed I sicrhau gwyliau arbennig I ni yn yr Wyl unwaith eto.

Llawer o ddiolch am drefnu popeth. Cawsom I gyd amser wrth ein boddau yn Derry ac edrychwn ymlaen at gael ymweld ag yno eto yn 2015. Aeth yr amser yn llawer rhy gyflym ond erys yr atgofion hapus a'r gwmniaeth ardderchog yn y cof am byth.

Roedd y llety a'r bwyd yn fendigedig a deud y gwir yn rhy flasus achos roeddwn wedi rhoi 5 pwys ymlaen.!!

Roedd y teithiau yn wych, a chyngerdd y Cymry o'r safon ucha posibl.

Edrychwn ymlaen at yr aduniad ym mis Chwefror lle bynnag y bydd.

Diolch o galon I bawb ohonoch am eich llafur cariad I sicrhau ein bod ni yn cael gwyliau o'r radd flaenaf.

Hwyl I bawb tan tro nesa.

Mair a Peter


Sut ydych chi wedi’r ymweliad a Derry?

Mi ddiflannodd yr Wyl megis seren wib fel petai. I Awen a minnau mae hyn yn hollol wir gan ein bod yn eitha prysur yn ystod y 5 diwrnod, ceisio trefnu lle roedd y cefnogwyr yn aros., trefnu y tripiau ac wedyn prysuro i bwyllgorau a gwahanol weithgareddau nos.
Rydym ar hyn o bryd yn ceisio cymhathu lluniau ac adroddiadau i’r safwe. Cofiwch os oes gennych ambell i lun da anfoner atom ni yma i Rhuddlan drwy gymorth e-byst.
Rydym yn hynod o falch o’ch cefnogaeth – y cystadleuwyr – y cwmniau bysus a’r gyrrwyr, chi gefnogwyr brwdfrydig.
Efallai bod rhai ohonoch heb fod eleni – dewch y flwyddyn nesaf – mae y ddinas yn werth ymweld a hi – hanesyddol yn wir. Teimlad braf oedd edrych a cherdded y bont heddwch.
Roedd y noson y Cymry yn un o’r nosweithiau gorau a fu erioed yn unrhyw Wyl yn yr Iwerddon – roedd Donncha y prif drefnydd wedi ei gyfareddu – yn enwedig gyda cyfraniadau y bobl ifanc – unwaith eto gystadleuwyr yn gantorion, offerynnwyr a dawnswyr does gen i ond y diolch mwyaf i chi.
Wrth gwrs nid ni ein dau ddaru drefnu yr holl weithgarwch dros y Cymru. Mi weithiodd Catrin Tomos yn galed cyn ac yn ystod yr Wyl. Hefyd Emyr y gwr yn cadw llygad tadol arnom. Dylan Cernyw a Gwenan Gibbard – dau sydd yn gefn aruthrol i’r Wyl ers degawdau. Ieuan ap Sion a fu yn feirniad fel Dylan a Gwenan ac yn arweinydd i’r noson y Cymry. Lynn a John a Bala fu yn gymorth i’r rhai a fu’n edrych ar ol y rhai ohonoch oedd yn aros yn y tai gwely a brecwast a’r hostel ac o gymorth mawr gyda trefniadau y tripiau.

Cofiwch bod Tegwyn a Marged Williams yn rhan bwysig o’r tim hefyd.

Dewch draw i’r Aduniad – Nant Gwrtheyrn ger Llithfaen oedd y dewis cyntaf ond nid oedd yn bosib y tro hwn. Oes na le addas yn Sir Fon na – gwesty rhesymol am un noson yn mis Chwefror 2015.

Llawer o ddiolch i bawb.

Arwel


28.02.14 Enillwyr Can i Gymru 2014

cig

Llongyfarchiadau i Barry a Mirain Evans, enillwyr Cân i Gymru 2014 gyda’r gân Galw Amdanat Ti. Cliciwch yma i weld y perfformiad ac i glywed y gân fuddugol.

Cliciwch yma i weld ein lluniau.

Aduniad 2014 yn Crymych

cor

 

 

ADUNIAD GWYL BAN GELTAIDD
YNG NGHLWB RYGBI CRYMYCH, 15FED CHWEFROR 2014

 

 

Daeth deunaw o Ogleddwyr ‘mhlith nifer fawr o’r De
i Grymych am aduniad, gan gyrraedd ar ol te!
A Gwyl Ban Geltaidd Derry, oedd achos dod pob un,
i Neuadd y Clwb Rygbi i wir fwynhau ei hun.
‘Rol stwffio’r bol, caed canu gan Fois y Frenni Fawr,
Gwenan Gibbard o Bwllheli, a Dylan a’i Delyn fawr.
Caed gan y ‘Funud Olaf, swyn canu gwych eu dawn,
A chan y gynulleidfa, gyd ganu hyfryd iawn!
Fe gysgodd y Gogleddwyr yng ngwelyau ffrindiau’r fro,
Ben bore, fe aeth sawl un i’r wlad a’r ci am dro.
Can diolch am y croeso, o agos ac o bell
A gafwyd ym Mro’r Preseli, mwynhad na fu ei well!
Dowch ‘da ni draw i Derry, yn Geltiaid yn llawn hwyl,
Cewch brofiad bythgofiadwy yn sbri a miri’r Wyl.
A Gwyl Ban Geltaidd Derry, a uned Cymru’n un
Pan awn i wlad y Gwyddel, a phrofi’r melys win!

Emyr Wyn Thomas
(Trefnydd y De)
Catrin Thomas
(Trefnydd Cystadlu)

Yn diolch i chi gyd am ddod

 

Cliciwch yma i weld mwy o luniau


can i gymruMae Cân i Gymru eleni yn cael ei gynnal ar safle sioe Môn ar y nos Wener yr 28ain o Chwefror – bydd cwmni Avanti eleni yn codi £3:00 y tocyn mynediad. Yr elw tuag at gronfa Sian Owen un a fu yn gefnogol iawn I’r Ẁyl Ban Geltaidd am flynyddoedd. Cofio hi yn cystadlu ei hun dwy flynedd yn ôl ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion a bron i’r gân ddod i’r brig yno, Sian oedd berchen y geiriau.

Gobeithio y daw caneuon gwych i’r Gystadleuaeth eleni.

Arwel – Trefnydd y Gogledd - Gẁyl Ban Geltaidd

Noson i goffáu y Telynor Robin James Jones

Robin James Jones

Magwyd Robin yn Nolwyddelan ac roedd y pentref yn agos iawn at ei galon ar hyd ei oes. Bu Robin yn perfformio a dysgu unigolion i ganu’r delyn ar hyd a lled Cymru cyn mynd i fyw am gyfnod yn America, ble roedd yn chwarae mewn clybiau nos yn New Orleans. Cawsom glywed ei hanes yn dysgu pobl ifanc yn America i chwarae’r delyn ar ffurf Jazz ,dyna oedd arddull naturiol ffwrdd a hi Robin, ac roedd yn brysur iawn yn ystod wythnos dreftadaeth Gymreig yn Efrog Newydd.

Braf oedd gweld Dylan Cernyw ac Angharad Wyn Jones yn perfformio yn arddull Robin ar y noson gan wneud un perfformiad o ‘Y Telynor Dall’ gyda’i gilydd. Robin sydd wedi dylanwadu ar y ddau pan roedd yn athro telyn arnynt.

Cafwyd eitemau eraill hefyd gan Esyllt Tudur,Trefor Selway, Helen Wyn Parri, Bethan Bryn, Gwenan Gibbard, Ieuan ap Sion, Dafydd Huw a Gron Elis gyda’r holl delynorion yng nghwmpeini Bethan Bryn yn perfformio gydai gilydd ar y telynau, roedd hwn yn berfformiad arbennig iawn.

Arweinwyd y noson gan Dennis Davies oedd yn ffrind agos i Robin. Bu’r ddau ennill 6 gwaith yn ein eisteddfodau cenedlaethol wrth adrodd i gyfeiliant, a dangoswyd clip o’r ddau yn perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni 1983.

Nid yn unig noson o berfformiadau arbennig a rhannu straeon am Robin oedd hi. Roedd yn noson i gyflwyno tlws arbennig i goffáu Robin wedi ei chynllunio a’i gwneud gan y Cyng. Mike Rayner, Llanddoged, cafodd y Tlws ei gyflwyno i lywydd anrhydeddus Cymru yr Ŵyl Ban Geltaidd Tegwyn Williams, er mwyn mynd a hi i Iwerddon i’w rhoi fel gwobr flynyddol i unigolyn fydd yn ennill y gystadleuaeth Telyn. Bu’r Wyl Pan Geltaidd yn agos iawn at galon Robin ac roedd yn mynd yno i berfformio a beirniadu yn flynyddol am gyfnod, fe wnaeth argraff ar lawer iawn.

Roedd hon yn noson fydd yn aros yn y cof am byth i bawb oedd yno, ac yn noson deilwng iawn i gofio am ddyn arbennig, a dyn lleol a ddylanwadodd ar lawer ar hyd y byd y gallwn ymfalchio o’i adnabod fel meistr ar y delyn ac fel ffrind.

 

Robin James Jones
Robin James Jones
Robin James Jones
Robin James Jones

C.D Gwenan Gibbard

Braint oedd bod yn bresennol yn y Galeri yng Nghaernarfon nos Sadwrn y 23ain o Dachwedd. Cafodd y gynulleidfa ei cyfareddu gan wahanol artistiaid yn enwedig Gwenan.

Roedd Dafydd Iwan yno i ddechrau y noson, diolchodd i Gwenan am ei dyfaisgarwch yn casglu alawon hen a newydd i greu ei 3ydd C.D – “cerdd dannau”.
Yn y broliant mae Gwenan yn cyfaddef fod cerdd dant wedi bod yn rhan o’i bywyd ers ei phlentyndod. Crefft wraig yw Gwenan y dylem fel Cymry fod yn falch iawn ohoni.
Mae y delynores amryddawn hon wedi mentro i gyflwyno darnau sy’n fwy arbrofol, ac mae y pedair ar ddeg darn ac eithro pedair wedi ei perfformio yn hunan-gyfeiliant.
Yn y cyngerdd lawnsio hwn cawsom y fraint o wrando ar un o gerdd dantwyr gorau Cymru sef Arfon Gwilym – dyna beth oedd gwledd a Gwenan yn gyfeilydd iddo, celfydd iawn. Yno yn gefn i Gwenan roedd Dylan Cernyw yntau yn delynor gwych, ac fel Gwenan wedi bod yn gefn i’r Ẁyl Ban Geltaidd ers blynyddoedd. Stephen Rees a Huw Roberts yn gerddorion gwych ar y ffidil, Stephen hefyd ar yr acordion – byrlymus oedd ei cyfraniad hwy.

Mab Huw wedyn sef Sion yn dangos ei ddawn gyda’r gitâr. Ac wedyn mi ddaeth y gantores Meinir Gwilym ymlaen gyda’i gitâr i ganu gyda Gwenan, swynol iawn. Rhaid bod sẁn y delyn yn y teulu oherwydd pwy ddaru ymddangos ar y llwyfan ond nith Gwenan – Erin i gyd chwarae ar ei thelyn gyda’i modryb. Mae y lluniau ar y clawr a thu mewn i’r C.D yn drawiadol iawn. Prynwch hi – mae’n werth pob ceiniog a mwy!

Arwel Roberts


poster

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Nodyn i'r corau, grwpiau ac unigolion

Mae’n amser i’r corau, grwpiau ac unigolion sydd a’i bryd i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd 2014 yn Derry i gysylltu ᾱ chwmni trefniadau twristaeth Derry “ Derry Visitor and Convention Bureau”.

Wele y rhifau ffôn, cyfeiriad e-byst ac yn y blaen.
Aoife Thomas : - aofie.thomas@derryvisitor.com 028 7137 7577 facs 028 7137 7992
Maria McDermott :- maria.mcdermott@derryvisitor.com 028 7126 3511 facs 028 7126 7284
Gemma Doherty :- gemma.doherty@derryvisitor.com 028 7126 3511 facs 028 7126 7284


Noson Goffa Robin James Jones

Cynhelir y cyfarfod nos Iau 28ain Tachwedd am 7.30yh, Eagles, Llanrwst.
Dyma rai fydd yn bresennol.

Esyllt Tudur, Ieuan ap Sion, Dylan Cernyw, Gwenan Gibbard, Bethan Bryn, Eleanor Wigley, efallai Dafydd Iwan, Sioned Webb, Arfon Gwilym.


Taith i Doire, Gogledd Iwerddon, 22ain– 27fed Ebrill 2014
Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.
Byddwn yn ymweld â DOIRE am y tro cyntaf. Byddwn yn teithio ar long bore dydd Mawrth Ebrill 22ain ac yn aros pum noson, gwely a brecwast a chinio yng Ngwesty'r Da Vinci; Llety Gwely a Brecwast, The Saddler’s House / The Merchant House neu’n Hostel Paddy’s Palace. Mae'r bws yn gyfforddus gyda cyfleusterau toiled arno. Mae'r mannau lletya’n weddol agos at ei gilydd yn y dref, â’r holl ddigwyddiadau o fewn ein cyrraedd yn “Y Guildhall” gyda tacsi rhâd.

Costau Terfynol y Daith
Gwesty'r Da Vinci. Gwely a Brecwast a chinio nos am 6y.h.

Dau yn rhannu, y person £436
Seng £590
Plant dan 12oed yn rhannu gyda rhieni £64

Llety Gwely a Brecwast
The Saddler’s House
Dau yn rhannu, y person £326
Sengl £361

The Merchant House
Dau yn rhannu, y person £336
Sengl £386

Paddy’s Palace, Hostel, Brecwast Ysgafn
Rhannu £221


Mae’r costau uchod yn cynnwys:
• Teithio ar y bws a’r llong o Gymru i Doire
• Pum noson gwely a brecwast (a phrydau .nos i’r rhai sy’n aros yn y ‘Da Vinci)
• Tocyn wythnos i holl weithgareddau’r Ŵyl
• Cil dwrn i’r gyrrwr

Manylion y daith
Gadael Llanelwy, Sir Ddinbych gyda bws am 7.00 a.m. bore Mawrth, 22ain Ebrill (trefnir y mannau codi eto). Ymlaen i Gaergybi ar long 10.00 y bore. i Dun Laoghaire gyda’r bws yn dod gyda ni. Cyrraedd Dun Laoghaire hanner dydd ac ymlaen i Doire gan gyrraedd erbyn 5.00 y pnawn. Aros 5 noson. Bydd cyfle i deithio o amgylch ar ddydd Mercher, Iau a Gwener, os dymunir. Mae tocyn wythnos i fwynhau’r Wyl. Bydd holl ddigwyddiadau Ŵyl yn “Y Guildhall”. Mae gwasanaeth tacsi rhâd ar gael. Cychwyn yn ôl 10 am bore dydd Sul 27ain Ebrill, a’r llong yn hwylio am 4.00yh. Cyrraedd Gaergybi 7.45yh ac ymlaen i Lanelwy. Ernes £50 a’r gweddill erbyn diwedd Chwefror. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Tegwyn Williams, Penbedw, Ffordd y Bryn, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0DD. Ffôn: 01745 583612 neu Arwel Roberts, Fachwen, Ffordd Rhyl, Rhuddlan LL18 2TP. Ffôn 01745 590869

Aduniad Pan Geltaidd – yn y Clwb Rygbi Crymych. Dydd Sadwrn, Chwefror 15,2014 – saith o’r gloch – Dewch I fwynhau cwmni Bois y Frenni ac eraill, Dylan Cernyw a Gwenan Gibbbard – Telynorion Cenedlaethol.


poster aduniad
poster

Teyrnged i Robin James Jones.

Cyfarfum a Robin James Jones dechrau'r 60au wrth fynd i Wersyll Glan Llyn a oedd newydd agor i gynnal penwythnosau, a chan fy mod yn byw yn Llanelwy byddwn yn mynd drosodd at Aelwyd Yr Wyddgrug yn aml at bartion. Roedd Robin yn adnabyddus fel telynor a chanu penillion a gwerin mewn deuawdau, partïon a chorau. Cofiaf fynd gyda Robin yn un criw ac aros mewn pabell fawr yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd yng Nghaergybi.

Collais gysylltiad wedi i Robin fynd o’r Wyddgrug. Dechrau'r 70au roedd Robin yn trefnu nosweithiau cerddorol ac weithiau gydag artistiaid o’r Iwerddon ym Mlas Maenan ger Llanrwst gan ei fod wedi symud yn ol i Ddyffryn Conwy. Yn ail hanner y 70au trefnais iddo ddod fel beirniad i Cill Airne i’r Wyl Ban Geltaidd. Roedd rhaid ysgrifennu i Awdurdod Addysg Gwynedd er mwyn ei ryddhau am fod Yr Ŵyl ymlaen Mis Mai bryd hynny.

Roedd cyfraniad Robin yn Yr Ŵyl Ban Geltaidd yn sylweddol, fel ym mhopeth a wnaeth. Gwisgai yn drwsiadus iawn ac roedd ei wybodaeth eang am artistiaid Iwerddon yn ei wneud yn berson yn uchel iawn ei barch gan gerddorion yno ac yr oedd yn sefyll allan wrth ei berfformiadau.

Cof am fynd i farchogaeth yn y “Gap of Dunloe”, tra roedd y criw yn ceisio ymatal rhag syrthio o’r ceffylau roedd Robin yn hen law, yn carlamu yn hyderus i fyny’r dyffryn, yn sefyll allan yn disgleirio gyda phob dim a wna.

Trefnais yn ystod y cyfnod yma nosweithiau I gasglu arian tuag at coffrau yr ymgyrch i sefydlu Canolfan Nant Gwrtheyrn yn un o dai mawr Llanelwy, bu Robin yn barod iawn gyda chyfeillion i godi swm sylweddol at y ganolfan newydd oedd newydd agor.

Bu’n aros gyda ni yng nghartref Con O’Conaill yn Tra Li a’r hwyl a gafwyd yn “Y Ffla”, gŵyl werin enfawr yn Listowell, yn defnyddio ei delyn i wthio ni drwy’r dyrfa i mewn i dafarn!

Penderfynwyd mynd i fyw i’r UD ond gadwodd gysylltiadau a’r Ŵyl Ban Geltaidd a daeth drosodd ddwywaith i’r Ŵyl. Wedi iddo ddychwelyd i Gymru bu’n feirniad cyson er i’w iechyd ddirywio fel nad oedd yn gallu dod gyda ni.

Bu Nansi Richards yn ddylanwad mawr ar Robin gyda’r elfen anffurfiol, yn wahanol i’r ffrwd o delynorion yng Nghymru, yn fwy tebyg efallai i draddodiad Y Gwyddel. Gwaddol Robin i’r diwylliant Cymreig yw'r sesiynau anffurfiol gyda thelynorion ifanc i gadw traddodiad Nansi Richards. Rwyf yn cofio gweld yn Tra Li sesiwn gyda Robin yn arwain, Dylan Cernyw yn dilyn a Gwenan Gibard yn dysgu cadw i fyny. Erbyn heddiw mae’r ddau wedi hen feddiannu traddodiad Nansi a Robin.

Bu’n fraint dy adnabod a chael cyfle i gael ein cyfareddu gan dy ddawn. Diolch Robin.


Arddangosfa 'mam a merch' - Lun a Leah Jones yn Y Bala.

image
image
image

Mae dwy artist Lun a Leah Jones yn arddangos yng Nghanolfan Plase, Y Bala am y pythefnos nesaf hyd at yr 20fed o Fedi. Hunaniaeth, atgofion a theimlad at gynefin sydd yn amlwg yng ngwaith y ddwy artist, ac er fod eu gwaith yn wahanol iawn, maen’t yn tynnu ysbrydoliaeth o’r un ffynonellau sef teulu a'r tirlun o'n cwmpas.

Mae yr rhan fwyaf o waith Lun, sydd wedi ennill diploma mewn Celf Gain o Brifysgol Bangor yr haf yma, i wneud hefo'r tirwedd mawreddog sydd o'i hamgylch. Mae ei gwerthfawrogiad o ysblander natur a'r tirwedd yn ddiflino, ond yn fwy na dim yr olygfa sydd i'w gweld o'i chartref pob dydd - sef Yr Aran Benllyn a'r Aran Fawddwy tu hwnt sydd yn ffurfio y rhan helaeth o'i gwaith.

Teimlai fod y gadwyn yma o fynyddoedd yn ffurfio cefnlen urddasol, aruchel i Lyn Tegid a dyma beth sy'n dwyn ei sylw fwyaf. Mae Lun yn ceisio dehongli effaith y tywydd wrth iddo newid yr un olygfa o hyd ac o hyd. Mae blociau o gysgod a golau yn ffurfio naws cerflyn ir mynydd ac yn ei dro yn newid lliwiau y mynydd mewn modd dramatic.

Yn ogystal a paentiadau mae Lun yn gwneud gwaith 3D, a mae un darn sy'n cael ei arddangos yn cynnwys gwaith llenyddiaeth ei mam - Eirlys Hughes.

Mae merch Lun - Leah Jones yn bennaeth adran celf yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam. Mae Leah yn cael ei ysbrydoli gan ei chartref, eu theulu ac yn fwy ddiweddar harddwch afordir Cymru, a mae hi yn ymchwilio i'r effaith mae'r pethau yma yn cael ar ei bywyd. Mae hi hefyd yn cael ei ysbrydoli gan fobl, gwyrthrychau, adeiladau ac achlysuron teuluol arbennig.

Mae ffynonellau ysbrydolaeth Leah yn cynnwys amser yn ty nain, esgidiau bach ei phlant a chasgliad o wrthrychiadau Nain a Taid – sef pethau sydd yn aml yn cael eu taflu, fel tudalenau allan o lyfr emynau, botymau, stampiau llythrenau, ruban a llyfrau anfoneb. Trwy ddefnyddio gwaith pwyth, mapiau, llythrennau, gwrthrychau brau, barddoniaeth ac enwau, mae Leah yn gobeithio cadw atgofion melys a dathlu ei hetifeddiaeth.

Mae Lun a John wedi bod yn teithio i'r Ŵyl Ban Geltaidd hefo Tegwyn a Marged a'r criw ers 1980 ac oedd Leah gyda nhw ar y trip cyntaf yna, a hithau ddim ond 18 mis oed.

Mae y ddau wedi wedi parhau i gefnogu yr ŵyl bron pob flwyddyn ers hynny, ond yn fwy diweddar heb eu dwy ferch - Leah a Rhiain.

Hwyrach bydd Leah yn gallu mynd a'i theulu bach ei hun i’r ŵyl rhyw dro yn y dyfodol.


Robin James Jones


imageGanwyd Robin yn Nolwyddelan- pentref a fu yn agos at ei galon ar hyd ei oes, er iddo deithio llawer.

Mynychodd Ysgol Gynradd Dolwyddelan, Ysgol Ramadeg Llanrwst a Choleg y Normal Bangor. Bu yn athro mewn amryw o ysgolion, gan enwi rhai ohonynt – Ysgol Glan ‘Rafon, Yr Wyddgrug, Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst ac Ysgol Gynradd Maesgeirchen, Bangor.

Roedd yn gerddor heb ei ail, yn bianydd rhagorol ac yn fwy na dim yn delynor penigamp – pryd y gwnaeth enw iddo ei hun. Gallai ganu hefyd ac roedd wedi ennill llu o wobrau gyda’i chwaer Ruth, ym myd Cerdd Dant.
Roedd Robin yn delynor neilltuol a chafodd wersi gan Gwenllian Dwyryd, Nansi Richards ac Ann Griffiths. Nansi Richards a’i hyfforddodd i ganu’r Delyn Deures. Bu’n delynor yn ein ‘heisteddfodau Cenedlaethol fwy nag unwaith. Cofiaf i’r stiwardiaid llwyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri 1968 ollwng ei delyn ar y llwyfan ac iddi falu.

Roedd chwarae hwyliog a medrus Robin a’i arddull byrfyfyr yn rhan annatod o’r Nosweithiau Llawen a gadwodd – llawer ohonynt Ym Mhlas Maenan, Llanrwst gyda’i gyfaill agos Trefor Selway.

Roedd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon yn agos iawn at ei galon ac fe’i mynychodd yn rheolaidd gan feirniadu ynddi ynghyd a’n diddori yn canu’r delyn hyd berfeddion nos. Roedd ganddo feddwl o Tegwyn a Marged Williams, Llanelwy sydd yn drefnwyr yr Ŵyl ers y dechrau.

Yn yr wythdegau dechreuodd fynd i America i ganu’r delyn dros y Nadolig a thros wyliau’r haf bu’n canu’r delyn ar y llong QE2.

Sefydlodd gyfeillgarwch â Gwyddel o’r enw Danny O’Flaherty ac yn niwedd yr wythdegau gadawodd ei swydd fel athro ac ymuno â’r Brodyr O’Flaherty mewn Clwb Celtaidd – O’Flaherty’s yn New Orleans.

Ymddangosodd ar y teledu amryw o weithiau – a’r rhaglen fwyaf adnabyddus oedd ‘Danny O’Flaherty Christmas Show’ a gafodd ei dangos ar fwy nag un sianel deledu (roedd yn Sioe flynyddol) .

Bu’n diwtor telyn mewn llawer man yn America. Bu hefyd yn diwtor telyn yma yng Nghymru ac mae Dylan Cernyw ac Angharad Wyn Jones wedi bod yn ddisgyblion iddo ac maent hwythau yn dod â sŵn y jazz i’w perfformiadau. Braf iawn yw gweld y ddau yma heddiw yn angladd Robin yn canu eu telynau.

Bu Robin yn America am dair blynedd ar ddeg i gyd ac fe wnaeth Gwyn Llywelyn raglen deledu o’i fywyd yno. Yna daeth yn ôl i Iwerddon i fyw a bu’n canu’r delyn yng Ngwesty’r Commonmara.

Rhyddhaodd CD ‘Telynegion’ ar lebel Sain.

Roedd yn hoff iawn o Lefaru hefyd a dyna sut y deuthum i i’w adnabod. Enillodd y ddau ohonom chwech gwaith yn ein Gwyliau Cenedlaethol ar y cystadlaethau adrodd i gyfeiliant. Bu’n llwyddiannus hefyd gyda Theodora Jones, Llanfair Caereinion. Hefyd gyda phartion o’r Wyddgrug, Ysgol Dyffryn Conwy a pharti Eiddon, Dolgellau.

Roedd yn arbenigwr ar Gerdd Dant ac roedd ganddo barti Cerdd Dant – Tannau’r Haf yng Nghonwy a Chôr Lleisiau’r Dyffryn ym Metws y Coed.

Dau berson a ddylanwadodd arno ac roedd ganddo feddwl mawr ohonynt oedd Wncwl Dewi ac Anti Myra sef y diweddar Barchedig Dewi Jones a Mrs Myra Jones, Tal y Bont / Llangefni. Pan oeddwn yn ei gwmni ychydig cyn iddo farw roedd yn dweud pa mor hoff oedd ohonynt.

Ymddangosodd ar y radio a’r teledu amryw o weithiau yng Nghymru ac roedd ar ffilm gyntaf S4C – ‘Madam Wen’.

Ceid llawer o hwyl yn ei gwmni a chwerthin llawer. Dechreuodd ymddiddori mewn cadw cŵn – ‘toy dogs’ a bu’n cystadlu gyda hwy yn Crufts. Roedd hefyd yn hoff o geffylau.

Ei hoff wisg oedd siwt wen a het fawr i gyd-fynd gyda’i delyn wen. Ond gallai ei wisg fod yn ‘embaras’ weithiau. Cofiaf fod yn ei gwmni ym Manceinion – Robin yn gwisgo het fawr, cot ffwr a ‘boots’ uchel pan waeddodd criw o ferched arno –
“Where is your horse, cock?”

Cofiaf hefyd fynd gydag ef i Ddulyn. I be? I Robin gael torri ei wallt. Roedd siop barbwr wrth golofn Molly Malone. Digwyddai hyn bob rhyw chwech wythnos – gadael Caegybi am 9.30 y bore a dal y llong 8.30 yr hwyr adref.

Yn anffodus i Robin cafodd yr afiechyd cancr afael ynddo a bu’n brwydro am bedair blynedd ar ddeg. Bu mewn cartrefi preswyl am wyth mlynedd a’r un diweddaraf oedd Plas yn Bryn, Bontnewydd, ble y cafodd ofal arbennig.

Mae’n ddiwrnod trist heddiw – colli cyfaill i bawb sydd yma a cherddor gwych.

Gorffennaf gyda’r dyfyniad yma –
“ a daeth i ben deithio byd”.
Diolch am gael ei adnabod.

Dennis Davies


Mai 2013 - ymweliad sydyn a Derry
Bu Awen a minnau ar ymweliad sydyn a Derry dechrau Mai 2013, ac roedd y tywydd yn ffafriol iawn, yr afon Foyle yn llifo yn osgeiddig drwy y ddinas a'r bont heddwch yn ei chroesi yn cyfleu rhyw gadernid oesol.
Pwrpas yr ymweliad oedd trefnu canolfeydd aros i selogion yr Wyl Ban Geltaidd fydd yn cael ei chynnal yno ar yr 22ain i'r 28ain o Ebrill 2013. Erbyn hyn mae gennym dri lle addas i wahanol alluoedd ariannol - hynny yw Gwesty moethus, Ty Gwely a Brecwast a Hostel, rhesymol eu prisiau i gyd. cewch fwy o fanylion yn fuan.

Mae i Derry neu Londonderry hanes diddorol a brawychus ond mae amgylchiadau wedi newid yno bellach ac mae'n bleser ymweld a'r ddinas hon o tua can mil o boblogaeth. Roedd bod yng nghwmni Doncha Mac Niallais y Gwyddel mwyn a chadarn yn rhywbeth a gofiwn am flynyddoedd wrth iddo ein harwain i ardal lle y bu y tafferthion wedi'r Sul Gwaedlyd.

Cawsom hefyd gyfle i weld y "Guild Hall" ddrudfawr sydd wedi ei hatgyweirio ers misoedd bellach. Adeilad cadarn gyda ffenestri lliw gwydr pleserus i'r llygad ac organ anferth gyda dros tair mil o bipellau. Mae y twr yn debyg iawn i "Big Ben" prif ddinas Lloegr.

Mi fydd yna groeso mawr inni yn Derry!

Os ydych eisiau manylion am le i aros cysylltwch a Pauline.ohara@yahoo.co.uk.

Gwelwn chi yno gobeithio

Arwel ac Awen Roberts.


Cystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd 2014

Mae’n amser I feddwl am gystadlu eto- Beth amdani? Mae rhai o bwyllgor Cymru wedi bod allan yn Derry ac mae’r pwyllgor yn Carlow eisiau i bawb lynnu at y rheolau o hyn ymlaen. - cliciwch yma


ADRODDIAD GŴYL BAN GELTAIDD 2013.

GŴYL BAN GELTAIDD CEATHARLACH (CARLOW), IWERDDON
EBRILL 2ail – 8fed 2013

Cynhaliwyd yr Wyl ban Geltaidd eleni (ac yn flynyddol ers 1970) yn Ceatharlach (Carlow), tref tua maint Caerfyrddin, hanner ffordd rhwng Dinas Dulyn a Rosslair, yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Croesawyd i Iwerddon gynrychiolwyr a chystadleuwyr o’r Gwledydd Celtaidd, - Yr Alban, Ynys Manaw, Cymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw i gymdeithasu a chystadlu yn eu hieithoedd cynnhennid. Daeth dau fws o gefnogwyr o Gymru; un o’r Gogledd, a’r llall o’r De. Teithiodd nifer o gôrau, grŵpiau ac unigolion i gystadlu gydol yr wythnos, a threfwyd y cystadlu ar ran Cymru oll, gan Mrs Catrin Thomas, Hermon.

Cychwynnodd yr Ŵyl ar Nos Fawrth gan Noson agoriadol awyr agored yng ngerddi’r Ganolfan VISUAL a choleg Carlow. Cymerodd cynrychiolwyr o’r Gwledydd Celtaidd ran yn dilyn cyflwyniadau gan drefnwyr yr Ŵyl, a chynrychiolwyr dinesig Iwerddon. Gydol yr wythnos bu cyfleon i ymwelwyr ganu a chymdeithasu yn ffurfiol ac anffurfiol o gwmpas y dref hyfryd hon, lle cynhaliwyd marchnad grefftau, arddangosfeydd, gwersi ieithoedd Celtaidd, sesiynau cerddorol, ystorїol, dawnsio atyniadau i ieuenctid a.y.y.b. Yn ystod y dydd, byddai bws y Gogledd a bws y De yn mynd ar wibdeithiau o amgylch y fro i Dulyn, i weld gerddi lleol, Kilkenny, a sawl man arall; yn wir roedd yr wythnos yn llawer rhy fyr.

Bu Grŵp dawnsio ‘Tipyn o bopeth’ yn creu adloniant o gwmpas y dre, a’r cyffiniau, ac yn wir mae’r Ŵyl yn ddyledus i’r criw yma o Gymru am hybu’r Wyl, a chreu diddordeb ymhlith yr ieuenctyd.

Gyda’r nos, cynhelid gweithgareddau mwy ffurfiol. Nos Fercher, roedd y cystadleuthau canu (unigol a grŵp). Nos Iau roedd cystadleuaeth Y Gân Geltaidd, gyda Chymru yn cael ei chynrychiolu gan y Grŵp ‘Jessop a’r Sgweiriau’. Nos Wener, roedd na Gyngerdd mawreddog o’r holl gorau yn yr Eglwys Gadeiriol, a bu hyn yn benllanw profiad bywyd i ambell un o ieuenctid Côr Ysgol y Strade Llanelli a merched Côr Bro Nest. Yn dilyn y Cyngerdd, cynhaliodd y Cymry ei Noson Lawen flynyddol yng Ngwesty’r Saith Derwen dan arweiniad Dennis o Lanrwst. Arddangoswyd yn hon, oreuon yr Ŵyl o Gymru benbaladr. Ddydd Sadwrn oedd diwrnod y côrau, gyda’r cystadlu yn cymryd lle yng nghampfa yr Academi leol, ac yn cynnig gwledd i’r llygad ac i’r glust. Braf oedd gweld chwech côr o Gymru yn cystadlu- Côr Bro Nest, LLeisiau Llanerch, Lleisiau’r Cwm, Côr Dre, Côr Ysgol y Strade heb angofio plant bach Llanbabs. Cynhaliwyd hefyd gystadleuthau dawnsio, canu’r ffidl, y Delyn a’r pibau, gyda Chymru yn fuddugol yno.

Rhaid nodi y bu hi’n wythnos fuddiol o hwyl a sbri, ynghyd â chystadlu o ddifri yn yr ysbryd gorau. Bu canu mawr gyda’r nos, o fewn cyffiniau’r Ŵyl, gyda rhai yn mynychu cyngerdd mewn clwb lleol, lle ymddangosodd y Grŵp Gwyddelog enwog ‘Y Wolfetones’; cymharer âg Edward H Dafis, neu’r ‘Beatles’!

Ni ellir gwneud cyfiawnder â’r Ŵyl mewn adroddiad fel hwn. Rhaid i chi ddod i’r Ŵyl i weld a phrofi drosoch eich hun. Ymwelwch â safwe’r Ŵyl Gwylbangeltaidd.com, gan noddi’r safle. Gwell byth, dewch i’r Ŵyl y flwyddyn nesaf yn Derry,Ebrill 22ain – 28ain 2014. Gwyliwch allan am fanylion a threfniadau teithio.

 



Ymhlith yr ennillwyr oedd:

  • 1af am y Grwp Gwerin (gwelir uchod)- Munud Olaf.- Dylan Cernyw, Gwenan Gibbard (telynwyr Cenedlaethol) a Catrin Thomas, Hermon
  • 2ail – Dawns- Tipyn o Bopeth
  • 1af – Cystadleuaeth Telyn – Ifan Prys Edwards
  • 1af - Unawd Ffidl- Imogen Evans
  • 2ail Lleisiau’r Cwm – Côr Gwerin
    Côr Merched
  • 2ail - Côr Ysgol y Strade, Llanelli- Côr Agored.
  • 3ydd -Cân Genedlaethol – Jessop a’r Sgweiri.


Pennillion gyfansoddwyd am rhai o gymeriadau a digwyddiadau’ Wyl:
Islwyn Iago: Hen lanc o Aberteifi sy’ â llond bag o win,
A’i enw Islwyn Iago, yn trigo wrth ei hun.
Fe’i gwelwch lle y mynnoch ble bynnag byddo boch,
Yn gwisgo capan stabal a hwnnw o liw coch!
Ei focs bwyd llawn i’r ymyl, Ffowls cȇcs, sneb gwbod ble
Y cafwyd y danteithion amheus o dan y ne.
Ond Iago sy bob bore yn cyfri ei iwros iach
Fel Cardi cydwybodol a’i fag i neb yn strâch! (EWT)


Diolch I Emyr Wyn Thomas am yr adroddiad cynhwysfawr hwn a’r pennill digri am Islwyn Iago.


Argraffiadau Ymweliad a Doire

‘Rwyf wedi ymweld a’r Ddinas o’r blaen ond dyma’r tro cyntaf i aros a chael fy hebrwng gan bobl lleol o amgylch gwestai , mannau aros, canolfannau a allwn eu defnyddio i’r Ŵyl Ban Geltaidd.

Mae’r Ddinas yn hardd, hanesyddol , ger yr Afon Foyle ac i ddyfynnu o un “brochure” “Gyda stori newydd i gyflwyno” wedi dechrau ar daith newydd heddychlon. ‘Roedd ymdeimlad cartrefo a chroesawgar i’w deimlo ym mhobman.

‘Roedd cael Croeso Dinesig gan y Maer yn brofiad arbennig a hefyd y syndod o gyfarfod y Ddirprwy Maer a oedd yn Gymro Cymraeg.

Bydd cael Yr Ŵyl mewn dinas yn her newydd ond gall fod yn brofiad gwerthfawr a chyfle i ehangu gorwelion a chyfoethogi diwylliant y Gwledydd Celtaidd.

Os oes rhaid dewis un peth o’r cwbwl, oedd mynd i’r Culturlann, canolfan diwylliannol newydd wedi addasu o hen becws a wedi defnyddio syniadau o ymweliad a “Y Galeri, Caernarfon. Mwynhais hefyd y bwyd yno a’r prisiau rhesymol iawn.

Edrych ymlaen i Doire2014 ond heb anghofio ymweliad a Ceatharlach 2013 a’r hwyl fydd yno.


Cyfweliad ar raglen Prynhawn Da

Ewch draw i'r wal fideo i weld y cyfweliad


22.03.13 - Yn anffodus mae Hogiau Berfeddwlad wedi gorfod canslo.


Aduniad Bala, 17.2.13 - cliciwch yma


ADRODDIAD O'R ŴYL PAN GELTAIDD 2012

O’r 9fed hyd y 15fed o Ebrill cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn nhref Ceatharlach (Carlow) yr Iwerddon. Cafwyd Gwyl arbennig iawn eto eleni gyda’r chwech Gwlad geltaidd yn bresennol a’r dref yn fwrlwm o weithgareddau - cliciwch yma

Lleisiau Llanbabs

Mae plantos bach Deiniolen
Yn arwyr mawr eu bri,
A Chymru a’r Iwerddon
Yn falch o’ch campwaith chwi.
Daeth Lynsey ac Eleri
Sy’n arweinwyr llawn o hwyl
A dwy wobr y Pan Geltaidd
I Ddeiniolen n’ôl o’r Ŵyl.

 

Plant Ysgol Gwaun Gynfi
Gemau eu talent gymen – ddaeth ar gân
Ddaeth a’r gamp oedd angen.
I blant Ysgol Deiniolen
Mwy na hwyl ddaeth o’r Ŵyl hen.
Hedd Bleddyn


Cliciwch yma
i weld yr erthygl


Aduniad Cymru ar Ŵyl Ban Geltaidd yn Bala
Gwesty Plas Coch
Mynediad am ddim
16eg o Chwefror
7:30 pm ymlaen.

Os yn dymuno aros yno:-
Ystafell ddwbl £60
Ystafell Sengl £35

01678 520 309

Dewch i noson hwyliog, mi fydd llawer o hen gyfeillion yno.


Lluniau o'r Ŵyl Ban Geltaidd yn Carlow 2012 - cliciwch yma


Plu'r Gweunydd

adroddiad plu'r gweunydd Adroddiad am yr Ŵyl Ban Geltaidd o'r papur Bro Plu'r Gweunydd- cliciwch yma

tim rygbi Adroddiad am griw ddaru ennill cystadleuaeth rygbi yn Ceatharlach ( Carlow) - cliciwch yma

Cyflwyniad i Tegwyn a'i wraig

tegwyn a'i wraig Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Lluniau o'r Ŵyl Ban Geltaidd

dawnswyr nantgarw

Dawnswyr Nantgarw yn dawnsio yn Ceatharlach

parti llanbabs

Parti Llanbabs a'i harweinydd
Lynsey Vaughan yn cystadlu yn yr Wyl

glanaethwy

Ysgol Glanaethwy buddugol
mewn pedair cystadleuaeth

parti'r efail

Parti'r Efail yn barod i gystadlu

steffan

Steffan Rhys Hughes o Llandyrnog a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth canu gwerin unigol


Aduniad yn Llanrwst

Cynhaliwyd Aduniad o gyfeillion o Gymru o’r Ŵyl Ban Geltaidd yng Ngwesty’r Eryrod, Llanrwst ar nos Sadwrn, Chwefror 11eg, 2012. Roedd yn noson hwyliog a chartrefol gyda sêr y noson ‘Lleisiau Llanbabs’, sef côr o blant ifanc o Ddeiniolen, Arfon, dan arweiniad Lynsey Vaughan Pleming. Roeddent yn wefreiddiol. Byddent yn cystadlu yng Ngharlow yn y cystadlaethau ar gyfer corau plant. Pob lwc!

Cafwyd eitemau gwych hefyd gan Lynsey ei hun, Ieuan ap Sion, Elfed Morris a Dylan Cernyw ar y delyn. Canodd y grŵp ‘Munud Olaf’ gân werin draddodiadol, sef Ieuan, Dylan, Elfed, Lynsey a Catrin Thomas. Llywyddwyd y noson gan Tegwyn Williams ac Arwel Roberts. Llawer o ddiolch i chi i gyd a diolch arbennig i Dylan Cernyw am drefnu’r adloniant. Cawsom noson gwerth chweil a chyfle i gael sgwrs hefyd.

Ymlaen a ni’n awr i Garlow ym mis Ebrill!

Mae 2 le ar ôl ar Fws y Gogledd a 6 ar Fws y De – y cyntaf i’r felin cofiwch!  


Can i Gymru yn 2012 yn y Daily Post - cliciwch yma

Rygbi - "A Call To All Clubs" - Daily Post 15:12:11 - cliciwch yma


13ddeg o Hydref 2011.

Llongyfarchiadau i Tegwyn Williams. Heno,mifu yn darlithio yn Llanelwy i’r Gymdeithas Gymraeg yn y Ddinas. Ei bwnc wrth gwrs oedd Hanes yr Wyl Ban Geltaidd.
Os oes gan unrhyw Gymdeithas arall ddiddordeb yn y ddarlith. Ffoniwch Tegwyn – 01745 583612.


Taith i Ceatharlach (Carlow), Eire.10fed – 15fed Ebrill 2012

Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.
Byddwn yn ymweld â CEATHARLACH am y tro cyntaf, ardal newydd heb fod yn rhy bell o Ddulyn. Byddwn yn teithio ar long bore dydd Mawrth 15fed Ebrill ac yn aros pum noson, gwely a brecwast yng Ngwestai'r Seven Oaks, llety G+B neu Coleg hunan arlwyo. Mae'r bws yn gyfforddus gyda chyfleustra toiled. Mae'r llefydd yng nghanol y dre, a holl ddigwyddiadau o fewn ein cyrraedd ........ mwy


I wrando ar 'Féile Pan Cheilteach An Daningean Éire 2011' - cliciwch yma

Michael Murphy

Managing Director Seven Oaks Hotel
Athy Road Carlow Ireland
Tel: 0599131308

Email: mmurphy@sevenoakshotel.com

Y Tair Weithgar!

Chwith i’r Dde. Aelodau o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Emma Ui Bhoin ( Swyddog Datbygu yr Iaith Gaeleg yn Carlow ), Bride de Roiste ( Cadeirydd o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Lleol yn Ceatharlach ) ac Mairéad Uί Mhadoc
( Aelod o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Lleol yn Ceatharlach )

Y Dynion!

Chwith i’r Dde Y Cynghorydd Wayne Fennell ( Is Gadeirydd Cyngor Sir CARLOW ), Michael Brennan ( Clerc Cyngor Tre Ceatharlach ac aelod o’r Pwyllgor Lleol o’r Ŵyl Ban Geltaidd ), Arwel Roberts ( Aelod o Bwyllgor Cymru o’r Ŵyl Ban Geltaidd ), Pat Deering (T.D/ Aelod o’r Llywodraeth Gwyddelig yn cynrychioli Etholaeth CARLOW),Tom O’Neil
(Cadeirydd Cyngor Tref Ceatharlach ac aelod o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Lleol yn y dref).

emma

Y Trysorydd

Helo Arwel.

Sut wyt ti?
Yn wreiddiol rwyf o Aberdâr yn nyffrynoedd diwydiannol De Cymru. Bûm yn byw yn Awstralia am flwyddyn ac yno y cyfarfyddais Patrick syn wreiddiol o Ceatharlach. Rwyf wedi byw yn y dref ers bron i bedair blwyddyn.

Rwyf wedi dechrau fy musnes fy hun ers Hydref 2010 – TaxAssistAccountants. Busnes sy’n delio gyda problemau ariannol busnesau bychan. Mi ddaru Bride fy nghyfarfod drwy gyswllt busnes ac fe ofynnodd i mi fod yn drysorydd y Pwyllgor Pan Geltaidd yn y dref.

Yn ddiweddar enillais ysgoloriaeth i ddysgu Gwyddeleg ac ‘rwyf newydd ddilyn fy nhrydydd gwers. Mae’n eithaf anodd ond drwy ddyfal barhad rwyf yn obeithiol o lwyddo.

Gobeithio fod pawb yn dda, welwch chi flwyddyn nesaf!

Emma Rees.


Y Cerddorion

Tricia Ni Hutain ( Ffidil ) a Pάdraigin Ceasar ( Y Delyn )

The Pan Celtic International Charter is presented to Carlow

poster

There was a major celtic presence in Carlow last week as representatives of the various celtic nations which make up the International Pan Celtic Council descended on the town to prepare for the festival which will be hosted by Carlow in April 2012 and again in 2013.

A total of twenty delegates were guests of the Carlow committee and enjoyed the hospitality of the Seven Oaks Hotel as well as being dined royally during their three day stay compliments of establishments such as Teach Dolmain, Carlow Talbot Hotel, Reddys and the Forge restaurant. Trips to local attractions such as Altamont Gardens, Brownshill Dolmen and Ducketts Grove were organized by Carlow Tourism and Carlow Cabs while Carlow local authorities laid on a guided tour of the G.B. Shaw Theatre and VISUAL Centre followed by lunch in Lennons @Visual.

The official hand over to Carlow, custodians of the spirit and ethos of the festival over the next two years, was marked by the presentation of the Pan Celtic Charter by Margaid Bird from the Isle of Man and current President of The International Pan Celtic Council to Cllr Tom O’Neill, Cathaoirleach of Carlow Town Council, at a gala event in the Seven Oaks Hotel on Thursday evening. International chairman and founder of the festival, Con Ó Conaill, gave a brief history of Pan Celtic since its foundation in Killarney in 1971 and assured Ceatharlach of the support of all six nations as the town prepares to brace itself for a major celebration of celtic culture next easter.

The celtic countries involved are Wales, Scotland, Isle of Man, Cornwall, Brittany and Ireland and the six day festival which will run from 10-15 April is expected to attract a huge influx of visitors to Carlow for the annual celebration of all things celtic including language, music, song, dance, food and sport.

The broad remit of Pan Celtic requires the support, co-operation and participation of the entire community and an open invitation is extended to all in Carlow to join one of the many subcommittees gearing up to ensure a magnificent fringe programme to compliment the official events of the festival next April. A brand new website www.panceltic.ie is under construction while the email address pancelticcarlow@gmail.com and the facebook page are already live. For more information why not drop into the Pan Celtic office which is based in the Glór Cheatharlach building on College Street, Carlow or phone 059 9158105 or 085 1340047.

Together let’s make sure this the 41st International Pan Celtic Festival is the best ever as we invite our celtic friends to… Follow us up to Ceatharlach! Beidh fáilte roimh chách!

Bríde de Róiste, Pan Celtic Carlow.

Cliciwch yma am daflen


Adroddiad Marion Owen yn ei Papur Bro Plu'r Gweunydd 2011 - cliciwch yma


Yr Ŵyl arall yn An Daingle 2011

Nid peth hawdd yw ysgrifennu marwnad ond dyna ddaeth i ran Norman Closs Parry eleni yn An Daingle. Roedd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn gorffen ar y cyntaf o Fai ac oherwydd fe oedd yn ffinio gyda Gŵyl arall a gynhelir yn y dref sef Gŵyl Fai.
Un o symbylwyr yr Ŵyl hon oedd Mihael Fanning – meddyg yn y dref wedi rhoi oes o wasanaeth i drigolion y penrhyn.

Roedd Mihael yn fardd toreithiog yn y ddwy iaith sef y Wyddeleg a’r Saesneg. Roedd wedi ei drwytho yn hanes a diwylliant y rhan yma o Iwerddon ac yn arbenigwr ar Ynysoedd y Blasket. Yn anffodus bu farw Mihael noswyl nadolig y llynedd ac fe deimlwyd y golled yma yng Nghymru ymysg llawer o’i ffrindiau yn cynnwys Tegwyn a Marged Williams, Arwel ac Awen Roberts a Norman a Beti Closs Parry.

Arwr ǎn Gaeltacht ac yno roedd Mihael wrth ei waith yn cadw diwylliant ac iaith ei wlad yn fyw. Pleserus oedd y pnawn hwnnw yng nghanol ei deulu a’i ffrindiau yn hel atgofion amdano ar draeth Ventry ger An Daingle. Gweler lun o’r achlysur a Norman Closs yn darllen y farwnad i Mihael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Marwnad Meddyg - cliciwch yma


Adroddiad Gŵyl Ban Geltaidd 2012
Daeth cyfnod newydd i gefnogwyr yr Ŵyl. Ffarwelio ac An Dangen ac edrych ymlaen i ymweld â lle arall sef Ceatharlach – Carlow, nodwch y dyddiadau 10-15 o Ebrill 2012.

Roedd cefnogaeth y Cymry i’r Ŵyl eleni yn aruthrol.Hoffsi y Pwyllgor Cymru o’r Ŵyl ddiolch i bawb a gefnogodd y trefniadau gan Tegwyn Williams a’r Pwyllgor Lleol yn An Daingen.

Diolch yn arbennig i’r criw Dawnsio Gwerin ‘Tipyn o Bobpeth’ am ei dyfalbarhad a’i hamynedd wrth ddawnsio mewn llawer lle yn An Daingle yn cynnwys yr harbwr, y nosweithiau cenedlaethol a cartref i’r henoed, diolch hefyd i’r cerddorion brwdfrydig oedd yn cyfeilio i’r dawnswyr. Heb Bobby a’i chriw ni fuasai gan Gymru gyrychiolwyr dawns yn yr Ŵyl eleni a llawer blwyddyn arall.

Cefnogwyd yr Ŵyl gan selogion Gogledd Cymru eto eleni. Teithiodd 55 o drigolion y rhanbarth ar fws Llew Jones ac roedd nifer wedi teithio drosodd mewn ceir. Bu Côr Dre, Aelwyd yr Ynys a Hogie’r Berfeddwlad yn cystadlu yn yr adran gorawl. Braf oedd gweld Côr Bro Nest a Parti’r Efail yn mynychu’r Ŵyl am y tro cyntaf ac yn cystadlu yn frwdfrydig yn erbyn y corau eraill.Dewch yn ol y flwyddyn nesaf mi ddaethoch a chwa o awyr iach y Dê i’r Ŵyl.

Gobeithio y daw mwy o gefnogwyr o’r Dê i’r Ŵyl y flwyddyn nesaf i gefnogi y Pwyllgor brwdfrydig yn Carlow. Diolch i’r Parchedig Emyr Wyn Thomas am yrru y bws bitw o le i le eto eleni, mae yn gobeithio trefnu bws llawer mwy o faint o’r Dê y flwyddyn nesaf.

Tybier fod dros 400 o Gymry wedi mynychu yr Ŵyl eleni. Llongyfarchiadau mawr i’r corau am ei llwyddiant eleni. Wele’r canlyniadau :- Unawd Gwerin 2ail - Catrin Roberts. Grwp Gwerin 3ydd – Munud Olaf. Grwp Cenedlaethol ( Cân i Gymru) 1af – Brigyn.

Dawns 1af – Parti Dawns- Tipyn o Bopeth. Unawd Telyn – 2ail- Moira Lewis. Cystadleuaeth Corau. Meibion 1af – Parti’r Efail 2ail – Hogie’r Berfeddwlad. Cystadleuaeth i’r Côr Merched 1af Côr Bro Nest. Côr 4 llais gyda cyfeliant – 1af Aelwyd yr Ynys, 2ail Côr Dre. Côr heb gyfeiliant – 1af Aelwyd yr Ynys, 2ail Côr Dre. Côr Gwerin Unsain- 1af – Hogiau Berfeddwlad, 2ail – Parti’r Efail, 3ydd – Côr Dre. Cwpan am y côr gorau yn yr Ŵyl – Aelwyd yr Ynys.

Gyda llaw cofiwch fod gan Hogie’r Berfeddwlad C.D newydd danlli allan – un werth chweil – diddordeb cysylltwch â dylanwyndavies@googlemail.com
Yn yr agoriad swyddogol eleni braf oedd gweld fod cynrychiolwyr o Lydaw wedi cyrraedd yr Ŵyl, roedd ei cerddoriaeth unigryw yn wledd i’r glust.


Con O Connaill yng nganol criw o'r pwyllgor cenedlaethol

Susan Ní Churnáin presenting Pan Celtic Festival founder Con Ó Conaill with a Dingle Crystal bowl to mark the 40th anniversary of the international festival which was held in Dingle last week. Photo by Ted Creedon

Tegwyn Williams Cymru, Micheal de Mordha Iwerddon, Fiona McArdle ynys Manaw, Ann Kennedy Truscott Cernyw, Con OConaill, Ailean MacColla Yr Alban,Susan Ni Churnain Iweddon, Liam OMaolaodha Iwerddon.

Yn An Daingen eleni ddaru prif symbylydd yr Ŵyl fethu mynychu y gweithgareddau. Ond un diwrnod y bu iddo weld ei ffordd yn glir i ymweld â’r Ŵyl a hynny am ychydig oriau. Syniad Con O Conaill oedd creu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn saithdegau y ganrif flaenorol ac fe deimlai y Pwyllgor lleol a’r Pwyllgor Cenedlaethol bod angen diolch i Con am ei holl wait, ac fe gyflwynwyd tlws gwerhtfawr iddo am ei ddyfalbarhad a’i weledigaeth. Noder fod Tegwyn ein Tad Celtaidd yn y llun. Brysiwch i wella Con.


NEWIDIADAU GAN Y CWMNI FERRI

Oherwydd newidiadau gan y Cwmni Ferri mi fyddwn yn awr yn hwylio o Gaergybi am hanner awr wedi dau bore mawrth y 26ain o Ebrill 2011. Mi fyddwn yn gobeithio cyrraedd An daingen erbyn un o'r gloch y pnawn. Bydd Tegwyn mewn cysylltiad a phawb yn fuan i drefnu yr amseroedd a'r lleoliadau i ddal y bws.


CYSTADLEUAETH CÂN I GYMRU 2011

Llongyfarchiadau i Steve Balsamo ac Ynyr Roberts am ennill y gystadleuaeth Cân i Gymru eleni (2011) gyda’r gân Rhywun yn Rhywle.

Y wobr oedd £7,500 a hwynt hwy fydd yn cynrychioli Cymru yn Yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni yn Iwerddon. Y gantores ddawnus Tesni Jones fydd yn canu y gân wedi iddi swyno y beirniaid nos Sul y 6ed o Fawrth.

Mae Ynyr yn wreiddiol o Bemisarwaun ger Caernarfon yn ddiolchgar iawn i bawb a bleidleisiodd dros Rhywun yn Rhywle ar y ffôn ac roedd ennill y gystadleuaeth yn golygu llawer iddo ac uchelgais bersonol ganddo.

Roedd gweithio gyda rhywun mor ddawnus â Steve wedi bod yn fraint anhygoel iddo. Prif neges y gân yw dilyn eich breuddwydion a cadw’r ffydd yn ôl Ynyr.

Aelod o’r grwp Brigyn yw Ynyr a dyma’r trydydd tro iddo gystadlu yn y gystadleuaeth. Mae llais Tesni yn bwerus iawn yn ôl Steve ac Ynyr ac roedd addasu y gân i’r llais yn dasg pleserus iawn meddai Steve.

Mae Steve yn enwog am ganu y prif rhan yn y cynhyrchiad “ Jesus Christ Superstar” yn Llundain.

Aeth yr ail wobr i Osian Rhys Roberts am ei gân Cofia am y Cariad a’r drydedd wobr i Gai Toms am ei gân Clywch.

Dymuna aelodau o’r Pwyllgor Cymru yr Ŵyl Ban Geltaidd longyfarch yr holl gystadleuwyr a chwmni Avanti am gynhyrchu y rhaglen.

enillwyr

Ynyr Roberts, Steve Balsamo a Tesni Jones

enillwyr

Yr enillwyr gyda'r Parchedig Emyr Wyn Thomas - Trefnydd y De a llywydd anrhydeddus Yr Ŵyl Ban Geltaidd 2010- 2011

catrin

Catrin Thomas -
Trefnydd y Beirniad a'r Cystadlu yng Nghymru


catrin Catrin Thomas,
Trefnydd Cystadlu
01269843037
01994419554
07525008494
catrintymbl@yahoo.co.uk


‘an Blascaod Mor’

( wedi darllen ‘ The Islander’ gan Tomǎs O’Gohan
un o lenorion enwog yr ynys)

‘ Tomas O’Crohan !!, ohonoch i gyd
lenorion yr ynys, croniclwyr rhawd
eneidiau celyd – rhai na wel ein byd
efo eu tebyg ’- gyfoethogion tlawd…
yn dy fwthyn isel cawn drafod hynt
rhoi curragh i’r cerrynt wrth fedi’r môr,
ac armadilio i’w gario drwy’r gwynt
i hafan greigiog lle rhenid y stôr.

O lanfa Dứnchaoin,’ Iwerydd fel draig
dan gri’r gwylanod dychmygaf weld gweu
patrymau sampler byd mawnog ar aig,
y chwerthin, y crio a’r cyd ddyheu…

Hen fyd ‘an Ghaeltacht’ gwylaist yn agos
dyn a’r gynefin – ond nid yw’n aros.

Norman Closs.


Gwefan yn Plesio

"Dim ond gair i ddweud fod safle we'r Ŵyl yn edrych yn gret! Wedi gorfod peidio edrych gormod arno rhag ofn codi hiraeth mawr. Hwyl am y tro, a mwynhewch y trip, mi fyddwn yn meddwl amdanoch!"

Gwenan Gibbard