Mai 2013 - ymweliad sydyn a Derry
Bu Awen a minnau ar ymweliad sydyn a Derry dechrau Mai 2013, ac roedd y tywydd yn ffafriol iawn, yr afon Foyle yn llifo yn osgeiddig drwy y ddinas a'r bont heddwch yn ei chroesi yn cyfleu rhyw gadernid oesol.
Pwrpas yr ymweliad oedd trefnu canolfeydd aros i selogion yr Wyl Ban Geltaidd fydd yn cael ei chynnal yno ar yr 22ain i'r 28ain o Ebrill 2013. Erbyn hyn mae gennym dri lle addas i wahanol alluoedd ariannol - hynny yw Gwesty moethus, Ty Gwely a Brecwast a Hostel, rhesymol eu prisiau i gyd. cewch fwy o fanylion yn fuan.
Mae i Derry neu Londonderry hanes diddorol a brawychus ond mae amgylchiadau wedi newid yno bellach ac mae'n bleser ymweld a'r ddinas hon o tua can mil o boblogaeth. Roedd bod yng nghwmni Doncha Mac Niallais y Gwyddel mwyn a chadarn yn rhywbeth a gofiwn am flynyddoedd wrth iddo ein harwain i ardal lle y bu y tafferthion wedi'r Sul Gwaedlyd.
Cawsom hefyd gyfle i weld y "Guild Hall" ddrudfawr sydd wedi ei hatgyweirio ers misoedd bellach. Adeilad cadarn gyda ffenestri lliw gwydr pleserus i'r llygad ac organ anferth gyda dros tair mil o bipellau. Mae y twr yn debyg iawn i "Big Ben" prif ddinas Lloegr.
Mae’n amser I feddwl am gystadlu eto- Beth amdani? Mae rhai o bwyllgor Cymru wedi bod allan yn Derry ac mae’r pwyllgor yn Carlow eisiau i bawb lynnu at y rheolau o hyn ymlaen. - cliciwch yma
ADRODDIAD GŴYL BAN GELTAIDD 2013.
GŴYL BAN GELTAIDD CEATHARLACH (CARLOW), IWERDDON
EBRILL 2ail – 8fed 2013
Cynhaliwyd yr Wyl ban Geltaidd eleni (ac yn flynyddol ers 1970) yn Ceatharlach (Carlow), tref tua maint Caerfyrddin, hanner ffordd rhwng Dinas Dulyn a Rosslair, yng Ngweriniaeth Iwerddon.
Croesawyd i Iwerddon gynrychiolwyr a chystadleuwyr o’r Gwledydd Celtaidd, - Yr Alban, Ynys Manaw, Cymru, Iwerddon, Cernyw a Llydaw i gymdeithasu a chystadlu yn eu hieithoedd cynnhennid. Daeth dau fws o gefnogwyr o Gymru; un o’r Gogledd, a’r llall o’r De. Teithiodd nifer o gôrau, grŵpiau ac unigolion i gystadlu gydol yr wythnos, a threfwyd y cystadlu ar ran Cymru oll, gan Mrs Catrin Thomas, Hermon.
Cychwynnodd yr Ŵyl ar Nos Fawrth gan Noson agoriadol awyr agored yng ngerddi’r Ganolfan VISUAL a choleg Carlow. Cymerodd cynrychiolwyr o’r Gwledydd Celtaidd ran yn dilyn cyflwyniadau gan drefnwyr yr Ŵyl, a chynrychiolwyr dinesig Iwerddon. Gydol yr wythnos bu cyfleon i ymwelwyr ganu a chymdeithasu yn ffurfiol ac anffurfiol o gwmpas y dref hyfryd hon, lle cynhaliwyd marchnad grefftau, arddangosfeydd, gwersi ieithoedd Celtaidd, sesiynau cerddorol, ystorїol, dawnsio atyniadau i ieuenctid a.y.y.b. Yn ystod y dydd, byddai bws y Gogledd a bws y De yn mynd ar wibdeithiau o amgylch y fro i Dulyn, i weld gerddi lleol, Kilkenny, a sawl man arall; yn wir roedd yr wythnos yn llawer rhy fyr.
Bu Grŵp dawnsio ‘Tipyn o bopeth’ yn creu adloniant o gwmpas y dre, a’r cyffiniau, ac yn wir mae’r Ŵyl yn ddyledus i’r criw yma o Gymru am hybu’r Wyl, a chreu diddordeb ymhlith yr ieuenctyd.
Gyda’r nos, cynhelid gweithgareddau mwy ffurfiol. Nos Fercher, roedd y cystadleuthau canu (unigol a grŵp). Nos Iau roedd cystadleuaeth Y Gân Geltaidd, gyda Chymru yn cael ei chynrychiolu gan y Grŵp ‘Jessop a’r Sgweiriau’. Nos Wener, roedd na Gyngerdd mawreddog o’r holl gorau yn yr Eglwys Gadeiriol, a bu hyn yn benllanw profiad bywyd i ambell un o ieuenctid Côr Ysgol y Strade Llanelli a merched Côr Bro Nest. Yn dilyn y Cyngerdd, cynhaliodd y Cymry ei Noson Lawen flynyddol yng Ngwesty’r Saith Derwen dan arweiniad Dennis o Lanrwst. Arddangoswyd yn hon, oreuon yr Ŵyl o Gymru benbaladr. Ddydd Sadwrn oedd diwrnod y côrau, gyda’r cystadlu yn cymryd lle yng nghampfa yr Academi leol, ac yn cynnig gwledd i’r llygad ac i’r glust. Braf oedd gweld chwech côr o Gymru yn cystadlu- Côr Bro Nest, LLeisiau Llanerch, Lleisiau’r Cwm, Côr Dre, Côr Ysgol y Strade heb angofio plant bach Llanbabs. Cynhaliwyd hefyd gystadleuthau dawnsio, canu’r ffidl, y Delyn a’r pibau, gyda Chymru yn fuddugol yno.
Rhaid nodi y bu hi’n wythnos fuddiol o hwyl a sbri, ynghyd â chystadlu o ddifri yn yr ysbryd gorau. Bu canu mawr gyda’r nos, o fewn cyffiniau’r Ŵyl, gyda rhai yn mynychu cyngerdd mewn clwb lleol, lle ymddangosodd y Grŵp Gwyddelog enwog ‘Y Wolfetones’; cymharer âg Edward H Dafis, neu’r ‘Beatles’!
Ni ellir gwneud cyfiawnder â’r Ŵyl mewn adroddiad fel hwn. Rhaid i chi ddod i’r Ŵyl i weld a phrofi drosoch eich hun. Ymwelwch â safwe’r Ŵyl Gwylbangeltaidd.com, gan noddi’r safle. Gwell byth, dewch i’r Ŵyl y flwyddyn nesaf yn Derry,Ebrill 22ain – 28ain 2014. Gwyliwch allan am fanylion a threfniadau teithio.
Ymhlith yr ennillwyr oedd:
1af am y Grwp Gwerin (gwelir uchod)- Munud Olaf.- Dylan Cernyw, Gwenan Gibbard (telynwyr Cenedlaethol) a Catrin Thomas, Hermon
2ail – Dawns- Tipyn o Bopeth
1af – Cystadleuaeth Telyn – Ifan Prys Edwards
1af - Unawd Ffidl- Imogen Evans
2ail Lleisiau’r Cwm – Côr Gwerin
Côr Merched
2ail - Côr Ysgol y Strade, Llanelli- Côr Agored.
3ydd -Cân Genedlaethol – Jessop a’r Sgweiri.
Pennillion gyfansoddwyd am rhai o gymeriadau a digwyddiadau’ Wyl:
Islwyn Iago: Hen lanc o Aberteifi sy’ â llond bag o win,
A’i enw Islwyn Iago, yn trigo wrth ei hun.
Fe’i gwelwch lle y mynnoch ble bynnag byddo boch,
Yn gwisgo capan stabal a hwnnw o liw coch!
Ei focs bwyd llawn i’r ymyl, Ffowls cȇcs, sneb gwbod ble
Y cafwyd y danteithion amheus o dan y ne.
Ond Iago sy bob bore yn cyfri ei iwros iach
Fel Cardi cydwybodol a’i fag i neb yn strâch! (EWT)
Diolch I Emyr Wyn Thomas am yr adroddiad cynhwysfawr hwn a’r pennill digri am Islwyn Iago.
Argraffiadau Ymweliad a Doire
‘Rwyf wedi ymweld a’r Ddinas o’r blaen ond dyma’r tro cyntaf i aros a chael fy hebrwng gan bobl lleol o amgylch gwestai , mannau aros, canolfannau a allwn eu defnyddio i’r Ŵyl Ban Geltaidd.
Mae’r Ddinas yn hardd, hanesyddol , ger yr Afon Foyle ac i ddyfynnu o un “brochure” “Gyda stori newydd i gyflwyno” wedi dechrau ar daith newydd heddychlon. ‘Roedd ymdeimlad cartrefo a chroesawgar i’w deimlo ym mhobman.
‘Roedd cael Croeso Dinesig gan y Maer yn brofiad arbennig a hefyd y syndod o gyfarfod y Ddirprwy Maer a oedd yn Gymro Cymraeg.
Bydd cael Yr Ŵyl mewn dinas yn her newydd ond gall fod yn brofiad gwerthfawr a chyfle i ehangu gorwelion a chyfoethogi diwylliant y Gwledydd Celtaidd.
Os oes rhaid dewis un peth o’r cwbwl, oedd mynd i’r Culturlann, canolfan diwylliannol newydd wedi addasu o hen becws a wedi defnyddio syniadau o ymweliad a “Y Galeri, Caernarfon. Mwynhais hefyd y bwyd yno a’r prisiau rhesymol iawn.
Edrych ymlaen i Doire2014 ond heb anghofio ymweliad a Ceatharlach 2013 a’r hwyl fydd yno.
22.03.13 - Yn anffodus mae Hogiau Berfeddwlad wedi gorfod canslo.
Aduniad Bala, 17.2.13
ADRODDIAD O'R ŴYL PAN GELTAIDD 2012
O’r 9fed hyd y 15fed o Ebrill cynhaliwyd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn nhref Ceatharlach (Carlow) yr Iwerddon. Cafwyd Gwyl arbennig iawn eto eleni gyda’r chwech Gwlad geltaidd yn bresennol a’r dref yn fwrlwm o weithgareddau - cliciwch yma
Mae plantos bach Deiniolen
Yn arwyr mawr eu bri,
A Chymru a’r Iwerddon
Yn falch o’ch campwaith chwi.
Daeth Lynsey ac Eleri
Sy’n arweinwyr llawn o hwyl
A dwy wobr y Pan Geltaidd
I Ddeiniolen n’ôl o’r Ŵyl.
Plant Ysgol Gwaun Gynfi
Gemau eu talent gymen – ddaeth ar gân
Ddaeth a’r gamp oedd angen.
I blant Ysgol Deiniolen
Mwy na hwyl ddaeth o’r Ŵyl hen. Hedd Bleddyn
Parti Llanbabs a'i harweinydd
Lynsey Vaughan yn cystadlu yn yr Wyl
Ysgol Glanaethwy buddugol
mewn pedair cystadleuaeth
Parti'r Efail yn barod i gystadlu
Steffan Rhys Hughes o Llandyrnog a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth canu gwerin unigol
Aduniad yn Llanrwst
Cynhaliwyd Aduniad o gyfeillion o Gymru o’r Ŵyl Ban Geltaidd yng Ngwesty’r Eryrod, Llanrwst ar nos Sadwrn, Chwefror 11eg, 2012. Roedd yn noson hwyliog a chartrefol gyda sêr y noson ‘Lleisiau Llanbabs’, sef côr o blant ifanc o Ddeiniolen, Arfon, dan arweiniad Lynsey Vaughan Pleming. Roeddent yn wefreiddiol. Byddent yn cystadlu yng Ngharlow yn y cystadlaethau ar gyfer corau plant. Pob lwc!
Cafwyd eitemau gwych hefyd gan Lynsey ei hun, Ieuan ap Sion, Elfed Morris a Dylan Cernyw ar y delyn. Canodd y grŵp ‘Munud Olaf’ gân werin draddodiadol, sef Ieuan, Dylan, Elfed, Lynsey a Catrin Thomas. Llywyddwyd y noson gan Tegwyn Williams ac Arwel Roberts. Llawer o ddiolch i chi i gyd a diolch arbennig i Dylan Cernyw am drefnu’r adloniant. Cawsom noson gwerth chweil a chyfle i gael sgwrs hefyd.
Ymlaen a ni’n awr i Garlow ym mis Ebrill!
Mae 2 le ar ôl ar Fws y Gogledd a 6 ar Fws y De – y cyntaf i’r felin cofiwch!
Can i Gymru yn 2012 yn y Daily Post - cliciwch yma
Rygbi - "A Call To All Clubs"- Daily Post 15:12:11 - cliciwch yma
13ddeg o Hydref 2011.
Llongyfarchiadau i Tegwyn Williams. Heno,mifu yn darlithio yn Llanelwy i’r Gymdeithas Gymraeg yn y Ddinas. Ei bwnc wrth gwrs oedd Hanes yr Wyl Ban Geltaidd.
Os oes gan unrhyw Gymdeithas arall ddiddordeb yn y ddarlith. Ffoniwch Tegwyn – 01745 583612.
Taith i Ceatharlach (Carlow), Eire.10fed – 15fed Ebrill 2012
Trefnir y daith gan Bwyllgor Cymru - Mudiad Pan Geltaidd.
Byddwn yn ymweld â CEATHARLACH am y tro cyntaf, ardal newydd heb fod yn rhy bell o Ddulyn. Byddwn yn teithio ar long bore dydd Mawrth 15fed Ebrill ac yn aros pum noson, gwely a brecwast yng Ngwestai'r Seven Oaks, llety G+B neu Coleg hunan arlwyo. Mae'r bws yn gyfforddus gyda chyfleustra toiled. Mae'r llefydd yng nghanol y dre, a holl ddigwyddiadau o fewn ein cyrraedd ........ mwy
I wrando ar 'Féile Pan Cheilteach An Daningean Éire 2011' - cliciwch yma
Michael Murphy
Managing Director Seven Oaks Hotel
Athy Road Carlow Ireland
Tel: 0599131308
Chwith i’r Dde. Aelodau o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Emma Ui Bhoin ( Swyddog Datbygu yr Iaith Gaeleg yn Carlow ), Bride de Roiste ( Cadeirydd o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Lleol yn Ceatharlach ) ac Mairéad Uί Mhadoc
( Aelod o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Lleol yn Ceatharlach )
Y Dynion!
Chwith i’r Dde Y Cynghorydd Wayne Fennell ( Is Gadeirydd Cyngor Sir CARLOW ), Michael Brennan ( Clerc Cyngor Tre Ceatharlach ac aelod o’r Pwyllgor Lleol o’r Ŵyl Ban Geltaidd ), Arwel Roberts ( Aelod o Bwyllgor Cymru o’r Ŵyl Ban Geltaidd ), Pat Deering (T.D/ Aelod o’r Llywodraeth Gwyddelig yn cynrychioli Etholaeth CARLOW),Tom O’Neil
(Cadeirydd Cyngor Tref Ceatharlach ac aelod o’r Pwyllgor Pan Celtaidd Lleol yn y dref).
Y Trysorydd
Helo Arwel.
Sut wyt ti?
Yn wreiddiol rwyf o Aberdâr yn nyffrynoedd diwydiannol De Cymru. Bûm yn byw yn Awstralia am flwyddyn ac yno y cyfarfyddais Patrick syn wreiddiol o Ceatharlach. Rwyf wedi byw yn y dref ers bron i bedair blwyddyn.
Rwyf wedi dechrau fy musnes fy hun ers Hydref 2010 – TaxAssistAccountants. Busnes sy’n delio gyda problemau ariannol busnesau bychan. Mi ddaru Bride fy nghyfarfod drwy gyswllt busnes ac fe ofynnodd i mi fod yn drysorydd y Pwyllgor Pan Geltaidd yn y dref.
Yn ddiweddar enillais ysgoloriaeth i ddysgu Gwyddeleg ac ‘rwyf newydd ddilyn fy nhrydydd gwers. Mae’n eithaf anodd ond drwy ddyfal barhad rwyf yn obeithiol o lwyddo.
Gobeithio fod pawb yn dda, welwch chi flwyddyn nesaf!
Emma Rees.
Y Cerddorion
Tricia Ni Hutain ( Ffidil ) a Pάdraigin Ceasar ( Y Delyn )
The Pan Celtic International Charter is presented to Carlow
There was a major celtic presence in Carlow last week as representatives of the various celtic nations which make up the International Pan Celtic Council descended on the town to prepare for the festival which will be hosted by Carlow in April 2012 and again in 2013.
A total of twenty delegates were guests of the Carlow committee and enjoyed the hospitality of the Seven Oaks Hotel as well as being dined royally during their three day stay compliments of establishments such as Teach Dolmain, Carlow Talbot Hotel, Reddys and the Forge restaurant. Trips to local attractions such as Altamont Gardens, Brownshill Dolmen and Ducketts Grove were organized by Carlow Tourism and Carlow Cabs while Carlow local authorities laid on a guided tour of the G.B. Shaw Theatre and VISUAL Centre followed by lunch in Lennons @Visual.
The official hand over to Carlow, custodians of the spirit and ethos of the festival over the next two years, was marked by the presentation of the Pan Celtic Charter by Margaid Bird from the Isle of Man and current President of The International Pan Celtic Council to Cllr Tom O’Neill, Cathaoirleach of Carlow Town Council, at a gala event in the Seven Oaks Hotel on Thursday evening. International chairman and founder of the festival, Con Ó Conaill, gave a brief history of Pan Celtic since its foundation in Killarney in 1971 and assured Ceatharlach of the support of all six nations as the town prepares to brace itself for a major celebration of celtic culture next easter.
The celtic countries involved are Wales, Scotland, Isle of Man, Cornwall, Brittany and Ireland and the six day festival which will run from 10-15 April is expected to attract a huge influx of visitors to Carlow for the annual celebration of all things celtic including language, music, song, dance, food and sport.
The broad remit of Pan Celtic requires the support, co-operation and participation of the entire community and an open invitation is extended to all in Carlow to join one of the many subcommittees gearing up to ensure a magnificent fringe programme to compliment the official events of the festival next April. A brand new website www.panceltic.ie is under construction while the email address pancelticcarlow@gmail.com and the facebook page are already live. For more information why not drop into the Pan Celtic office which is based in the Glór Cheatharlach building on College Street, Carlow or phone 059 9158105 or 085 1340047.
Together let’s make sure this the 41st International Pan Celtic Festival is the best ever as we invite our celtic friends to… Follow us up to Ceatharlach! Beidh fáilte roimh chách!
Adroddiad Marion Owen yn ei Papur Bro Plu'r Gweunydd 2011 - cliciwch yma
Yr Ŵyl arall yn An Daingle 2011
Nid peth hawdd yw ysgrifennu marwnad ond dyna ddaeth i ran Norman Closs Parry eleni yn An Daingle. Roedd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn gorffen ar y cyntaf o Fai ac oherwydd fe oedd yn ffinio gyda Gŵyl arall a gynhelir yn y dref sef Gŵyl Fai.
Un o symbylwyr yr Ŵyl hon oedd Mihael Fanning – meddyg yn y dref wedi rhoi oes o wasanaeth i drigolion y penrhyn.
Roedd Mihael yn fardd toreithiog yn y ddwy iaith sef y Wyddeleg a’r Saesneg. Roedd wedi ei drwytho yn hanes a diwylliant y rhan yma o Iwerddon ac yn arbenigwr ar Ynysoedd y Blasket. Yn anffodus bu farw Mihael noswyl nadolig y llynedd ac fe deimlwyd y golled yma yng Nghymru ymysg llawer o’i ffrindiau yn cynnwys Tegwyn a Marged Williams, Arwel ac Awen Roberts a Norman a Beti Closs Parry.
Arwr ǎn Gaeltacht ac yno roedd Mihael wrth ei waith yn cadw diwylliant ac iaith ei wlad yn fyw. Pleserus oedd y pnawn hwnnw yng nghanol ei deulu a’i ffrindiau yn hel atgofion amdano ar draeth Ventry ger An Daingle. Gweler lun o’r achlysur a Norman Closs yn darllen y farwnad i Mihael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Adroddiad Gŵyl Ban Geltaidd 2012
Daeth cyfnod newydd i gefnogwyr yr Ŵyl. Ffarwelio ac An Dangen ac edrych ymlaen i ymweld â lle arall sef Ceatharlach – Carlow, nodwch y dyddiadau 10-15 o Ebrill 2012.
Roedd cefnogaeth y Cymry i’r Ŵyl eleni yn aruthrol.Hoffsi y Pwyllgor Cymru o’r Ŵyl ddiolch i bawb a gefnogodd y trefniadau gan Tegwyn Williams a’r Pwyllgor Lleol yn An Daingen.
Diolch yn arbennig i’r criw Dawnsio Gwerin ‘Tipyn o Bobpeth’ am ei dyfalbarhad a’i hamynedd wrth ddawnsio mewn llawer lle yn An Daingle yn cynnwys yr harbwr, y nosweithiau cenedlaethol a cartref i’r henoed, diolch hefyd i’r cerddorion brwdfrydig oedd yn cyfeilio i’r dawnswyr. Heb Bobby a’i chriw ni fuasai gan Gymru gyrychiolwyr dawns yn yr Ŵyl eleni a llawer blwyddyn arall.
Cefnogwyd yr Ŵyl gan selogion Gogledd Cymru eto eleni. Teithiodd 55 o drigolion y rhanbarth ar fws Llew Jones ac roedd nifer wedi teithio drosodd mewn ceir. Bu Côr Dre, Aelwyd yr Ynys a Hogie’r Berfeddwlad yn cystadlu yn yr adran gorawl. Braf oedd gweld Côr Bro Nest a Parti’r Efail yn mynychu’r Ŵyl am y tro cyntaf ac yn cystadlu yn frwdfrydig yn erbyn y corau eraill.Dewch yn ol y flwyddyn nesaf mi ddaethoch a chwa o awyr iach y Dê i’r Ŵyl.
Gobeithio y daw mwy o gefnogwyr o’r Dê i’r Ŵyl y flwyddyn nesaf i gefnogi y Pwyllgor brwdfrydig yn Carlow. Diolch i’r Parchedig Emyr Wyn Thomas am yrru y bws bitw o le i le eto eleni, mae yn gobeithio trefnu bws llawer mwy o faint o’r Dê y flwyddyn nesaf.
Tybier fod dros 400 o Gymry wedi mynychu yr Ŵyl eleni. Llongyfarchiadau mawr i’r corau am ei llwyddiant eleni. Wele’r canlyniadau :- Unawd Gwerin 2ail - Catrin Roberts. Grwp Gwerin 3ydd – Munud Olaf. Grwp Cenedlaethol ( Cân i Gymru) 1af – Brigyn.
Dawns 1af – Parti Dawns- Tipyn o Bopeth. Unawd Telyn – 2ail- Moira Lewis. Cystadleuaeth Corau. Meibion 1af – Parti’r Efail 2ail – Hogie’r Berfeddwlad. Cystadleuaeth i’r Côr Merched 1af Côr Bro Nest. Côr 4 llais gyda cyfeliant – 1af Aelwyd yr Ynys, 2ail Côr Dre. Côr heb gyfeiliant – 1af Aelwyd yr Ynys, 2ail Côr Dre. Côr Gwerin Unsain- 1af – Hogiau Berfeddwlad, 2ail – Parti’r Efail, 3ydd – Côr Dre. Cwpan am y côr gorau yn yr Ŵyl – Aelwyd yr Ynys.
Gyda llaw cofiwch fod gan Hogie’r Berfeddwlad C.D newydd danlli allan – un werth chweil – diddordeb cysylltwch â dylanwyndavies@googlemail.com
Yn yr agoriad swyddogol eleni braf oedd gweld fod cynrychiolwyr o Lydaw wedi cyrraedd yr Ŵyl, roedd ei cerddoriaeth unigryw yn wledd i’r glust.
Con O Connaill yng nganol criw o'r pwyllgor cenedlaethol
Susan Ní Churnáin presenting Pan Celtic Festival founder Con Ó Conaill with a Dingle Crystal bowl to mark the 40th anniversary of the international festival which was held in Dingle last week. Photo by Ted Creedon
Tegwyn Williams Cymru, Micheal de Mordha Iwerddon, Fiona McArdle ynys Manaw, Ann Kennedy Truscott Cernyw, Con OConaill, Ailean MacColla Yr Alban,Susan Ni Churnain Iweddon, Liam OMaolaodha Iwerddon.
Yn An Daingen eleni ddaru prif symbylydd yr Ŵyl fethu mynychu y gweithgareddau. Ond un diwrnod y bu iddo weld ei ffordd yn glir i ymweld â’r Ŵyl a hynny am ychydig oriau. Syniad Con O Conaill oedd creu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn saithdegau y ganrif flaenorol ac fe deimlai y Pwyllgor lleol a’r Pwyllgor Cenedlaethol bod angen diolch i Con am ei holl wait, ac fe gyflwynwyd tlws gwerhtfawr iddo am ei ddyfalbarhad a’i weledigaeth. Noder fod Tegwyn ein Tad Celtaidd yn y llun. Brysiwch i wella Con.
NEWIDIADAU GAN Y CWMNI FERRI
Oherwydd newidiadau gan y Cwmni Ferri mi fyddwn yn awr yn hwylio o Gaergybi am hanner awr wedi dau bore mawrth y 26ain o Ebrill 2011. Mi fyddwn yn gobeithio cyrraedd An daingen erbyn un o'r gloch y pnawn. Bydd Tegwyn mewn cysylltiad a phawb yn fuan i drefnu yr amseroedd a'r lleoliadau i ddal y bws.
CYSTADLEUAETH CÂN I GYMRU 2011
Llongyfarchiadau i Steve Balsamo ac Ynyr Roberts am ennill y gystadleuaeth Cân i Gymru eleni (2011) gyda’r gân Rhywun yn Rhywle.
Y wobr oedd £7,500 a hwynt hwy fydd yn cynrychioli Cymru yn Yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni yn Iwerddon. Y gantores ddawnus Tesni Jones fydd yn canu y gân wedi iddi swyno y beirniaid nos Sul y 6ed o Fawrth.
Mae Ynyr yn wreiddiol o Bemisarwaun ger Caernarfon yn ddiolchgar iawn i bawb a bleidleisiodd dros Rhywun yn Rhywle ar y ffôn ac roedd ennill y gystadleuaeth yn golygu llawer iddo ac uchelgais bersonol ganddo.
Roedd gweithio gyda rhywun mor ddawnus â Steve wedi bod yn fraint anhygoel iddo. Prif neges y gân yw dilyn eich breuddwydion a cadw’r ffydd yn ôl Ynyr.
Aelod o’r grwp Brigyn yw Ynyr a dyma’r trydydd tro iddo gystadlu yn y gystadleuaeth. Mae llais Tesni yn bwerus iawn yn ôl Steve ac Ynyr ac roedd addasu y gân i’r llais yn dasg pleserus iawn meddai Steve.
Mae Steve yn enwog am ganu y prif rhan yn y cynhyrchiad “ Jesus Christ Superstar” yn Llundain.
Aeth yr ail wobr i Osian Rhys Roberts am ei gân Cofia am y Cariad a’r drydedd wobr i Gai Toms am ei gân Clywch.
Dymuna aelodau o’r Pwyllgor Cymru yr Ŵyl Ban Geltaidd longyfarch yr holl gystadleuwyr a chwmni Avanti am gynhyrchu y rhaglen.
Ynyr Roberts, Steve Balsamo a Tesni Jones
Yr enillwyr gyda'r Parchedig Emyr Wyn Thomas - Trefnydd y De a llywydd anrhydeddus Yr Ŵyl Ban Geltaidd 2010- 2011
Catrin Thomas -
Trefnydd y Beirniad a'r Cystadlu yng Nghymru
( wedi darllen ‘ The Islander’ gan Tomǎs O’Gohan
un o lenorion enwog yr ynys)
‘ Tomas O’Crohan !!, ohonoch i gyd
lenorion yr ynys, croniclwyr rhawd
eneidiau celyd – rhai na wel ein byd
efo eu tebyg ’- gyfoethogion tlawd…
yn dy fwthyn isel cawn drafod hynt
rhoi curragh i’r cerrynt wrth fedi’r môr,
ac armadilio i’w gario drwy’r gwynt
i hafan greigiog lle rhenid y stôr.
O lanfa Dứnchaoin,’ Iwerydd fel draig
dan gri’r gwylanod dychmygaf weld gweu
patrymau sampler byd mawnog ar aig,
y chwerthin, y crio a’r cyd ddyheu…
Hen fyd ‘an Ghaeltacht’ gwylaist yn agos
dyn a’r gynefin – ond nid yw’n aros.
Norman Closs.
Gwefan yn Plesio
"Dim ond gair i ddweud fod safle we'r Ŵyl yn edrych yn gret! Wedi gorfod peidio edrych gormod arno rhag ofn codi hiraeth mawr.
Hwyl am y tro, a mwynhewch y trip, mi fyddwn yn meddwl amdanoch!"
Gwenan Gibbard
Diolch
Diolch am ymweld â'n gwefan.
Gobeithio i chi ganfod yr hyn oeddech eisiau, os na wnaethoch, cysylltwch â ni'n ddiymdroi.